En

Teithio a Thwristiaeth

Mae’r byd i gyd o’ch blaen gyda chwrs mewn teithio a thwristiaeth. P’un a ydych yn mwynhau treulio eich amser hamdden yn agos i adref neu mewn mannau ym mhellafoedd byd, nid yw’r sector teithio a thwristiaeth ffyniannus fyth yn bell i ffwrdd.

Gyda chymhwyster mewn teithio a thwristiaeth, gallwch fynd i leoedd gyda’ch gyrfa o fewn un o’r diwydiannau mwyaf dynamig a chyffrous yn y byd. Fe rown gymorth i chi hedfan yn uchel fel un o griw awyren, cewch weld y byd fel cynrychiolydd cwmni gwyliau, neu gynllunio gwyliau perffaith fel asiant teithio.

Gallwch fynd â’ch gyrfa ar unrhyw drywydd sy’n mynd â’ch bryd, gyda phob math o swyddi o fewn y sector hwn – mae’r rhestr o opsiynau posib o ran gyrfaoedd ym maes teithio a thwristiaeth yn helaeth:

  • Meysydd awyr a bod yn un o griw awyren
  • Mannau Gwyliau
  • Atyniadau i ymwelwyr
  • Asiantaethau teithio
  • Tywyswyr mewn cyrchfannau gwyliau
  • Rheoli digwyddiadau

Gyda chyrsiau teithio a thwristiaeth lefel 1 a 2 yng Ngholeg Gwent, fe gewch gychwyn da i’ch gyrfa gyda sylfaen gadarn ar gyfer llwyddo. Mae ein cyrsiau’n cyfuno theori a phrofiad gwaith, i gyfoethogi eich dysgu a’ch paratoi am yrfa o fewn diwydiant y mae’r cwsmer yn ganolog iddo. Gallwch hyd yn oed wneud cais am gyllid Erasmus, ac ymweld â gwlad Ewropeaidd fel rhan o’ch astudiaethau i gael profiad drosoch eich hun!

Dim ond cychwyn y daith o safbwynt eich gyrfa yw ymuno â Choleg Gwent. Ar ôl ein cyrsiau teithio a thwristiaeth lefel 1 a 2, gallwch gamu allan i fyd gwaith neu fwrw ymlaen ag astudiaethau pellach. Beth am fynd â’ch gyrfa yr holl ffordd i lefel reolaeth, ac ewch gam ymhellach gyda’n HND ar lefel prifysgol mewn Twristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau. Felly cymrwch olwg ar ein cyrsiau a byddwch yn barod am eich gyrfa ym maes teithio a thwristiaeth nawr!

Edrychwch ar ein cyrsiau

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae’r unedau’n bleserus, a chawn ddysgu am yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn y diwydiant teithio. Mae’r cwrs yn eich paratoi ar gyfer gwaith yn y dyfodol ac rydym wedi dysgu sgiliau megis sut i weithio mewn tîm, sut i gyfathrebu, sut i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid, a sgiliau pobl.

Finley Davies
Teithio a Thwristiaeth, Lefel 3

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau