RTITB Llwythwr Telesgopig ar gyfer Tir Garw

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Trafnidiaeth a Logisteg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Bydd y cwrs hyfforddiant gweithredwr Llwythwr Telesgopig Deunyddiau yn rhoi’r sgiliau i chi weithredu’r wagen fforch godi yn ddiogel ac yn effeithlon, cynnal arolygiad cyn defnyddio ac adalw ac esbonio’r hyn sy’n achosi ansefydlogrwydd ar gyfer y wagen fforch godi ac ansefydlogrwydd llwyth. Caiff Llwythwyr Telesgopig Deunyddiau eu defnyddio’n eang ar draws y diwydiant adeiladu a’r diwydiant amaeth o ganlyniad i’w natur amlbwrpas a’u gallu i symud llwythi o bob siâp a phob maint. Fel arfer, mae’r peiriannau yn fwy amryddawn na wagen fforch godi wrthbwyso lai o ganlyniad i’w gallu i estyn i fyny ac ymlaen a’i chapasiti codi mwy.
Ar lwyddo i gwblhau’r cwrs, dyfernir trwydded achrededig RTITB i chi a fydd yn ddilys am 3 blynedd.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol. Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser am ddim sy’n cynnig dysgu hyblyg, cyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd)
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru, sydd mewn cyflogaeth gan ennill yn llai na £34,303 y flwyddyn.
... unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa ym meysydd diwydiant adeiladu neu’r diwydiant amaeth lle y defnyddir llwythwyr telesgopig yn rheolaidd.
Cynnwys y cwrs
Caiff y cwrs hyfforddiant ei gwblhau dros 5 diwrnod. Erbyn diwedd y cwrs, dylech chi allu:
· Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth am y peiriant a sut i’w weithredu’n ddiogel
· Darganfod ac adnabod prif gydrannau a phrif reolyddion y peiriant ac esbonio eu swyddogaethau · Esbonio’r ffactorau sy’n effeithio ar sefydlogrwydd y wagen ac adnabod sut i gynnal sefydlogrwydd y wagen a’r llwyth
· Esbonio’r peryglon sydd ynghlwm â gorlwytho’r wagen a dangos sut i atal gorlwytho
· Cynnal pob gwyriad cyn gweithredu
· Cynnal pob gwiriad diogelwch angenrheidiol yn y maes gwaith
· Symud y peiriant yn ddiogel pan fydd yn llwythog a heb lwyth, ar draws tir amrywiol mewn ardaloedd agored ac ardaloedd caeedig ac ar lethrau
· Cyflawni tasgau codi a llwytho, gan ddefnyddio tŵr llwytho (sgaffaldiau) a/neu cerbyd ffordd
· Ffitio, addasu a/neu dynnu atodiadau
· Cyflawni pob gweithdrefn diwedd sifft a chau i lawr
Bydd gofyniad i chi basio prawf theori ac asesiad gweithredydd ymarferol er mwyn cwblhau’r cwrs
Gofynion Mynediad
Sgiliau darllen ac ysgrifennu yn Saesneg ar lefel sylfaenol.
Fe’ch cynghorir i wisgo esgidiau diogelwch ond nid yw hyn yn orfodol. Am fod rhywfaint o hyfforddiant yn cael ei gyflawni yn yr awyr agored, fe’ch cynghorir i wisgo’n briodol ar gyfer pob math o dywydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nod y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn dechrau eu dysgu, yn ystod eu dysgu ac ar ôl eu dysgu.
Cyn i chi gael eich cofrestru ar eich cwrs a ariennir gan y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol, trafodir cynllun dysgu unigol gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
- profiad blaenorol yn y diwydiant neu’r maes
- dyheadau gyrfa
- ymroddiad amser angenrheidiol
Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd canlynol ar gyfer y cwrs hwn:
- dyheadau gyrfa i ennill trwydded i wella rhagolygon swyddi
- profiad blaenorol o wagen fforch godi
- hyfforddiant blaenorol neu dystysgrif flaenorol a enillwyd yn y maes hwn
MPLA0213AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.