En

Microsoft Certified Peiriannydd Azure AI - Cydymaith

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir Mae astudio'n gyfwerth â chyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'i cyflwynir mewn amgylchedd ar-lein.
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Ardystiedig gan Microsoft: Peiriannydd Azure AI - Cydymaith yw ardystiad lefel canol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n dylunio, creu a gweithredu datrysiadau AI gan ddefnyddio Microsoft Azure. Mae'n canolbwyntio ar integreiddio gwasanaethau megis Azure AI, Azure OpenAI, Cognitive Services ac Azure AI Search i ddefnyddiau byd go iawn.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Unrhyw un 19 oed neu'n hŷn sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol i'r cwrs hwn.

... gweithwyr proffesiynol sy'n creu a gweithredu datrysiadau AI gan ddefnyddio Microsoft Azure.

Cynnwys y cwrs

Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno ar ffurf ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn gyfwerth â chyrsiau wyneb yn wyneb mewn ystafelloedd dosbarth, ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 5 Diwrnod

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn dysgu'r canlynol:

  • Cynllunio a rheoli datrysiadau Azure AI
  • Gweithredu datrysiadau gweledigaeth gyfrifiadurol
  • Datblygu datrysiadau prosesu iaith naturiol (natural language processing - NLP)
  • Creu AI sgwrsiol (botiau)
  • Creu datrysiadau 'cloddio am wybodaeth'
  • Datblygu rhaglenni AI cenhedlol
  • Cymhwyso egwyddorion AI cyfrifol

Gofynion Mynediad

Dylai mynychwyr feddu ar wybodaeth am Microsoft Azure a'r gallu i lywio porth Azure. Argymhellir meddu ar wybodaeth am naill ai C#, Python neu JavaScript.

Bydd angen i chi fod â mynediad at y rhyngrwyd a chyfrifiadur Windows gyda gwegamera/microffon.

Gwybodaeth Ychwanegol

Nod y rhaglen PLA yw darparu cyngor a chyfarwyddyd gyrfaol o ansawdd uchel i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu haddysg.

Cyn cofrestru ar gyfer eich cwrs a ariennir gan PLA, byddwn yn trafod cynllun dysgu personol â chi i sicrhau eich bod wedi ystyried y llwybr addysg sydd mwyaf addas i chi.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
  • profiad blaenorol yn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • neilltuo'r amser sydd ei angen i gwblhau'r cwrs
Ble alla i astudio Microsoft Certified Peiriannydd Azure AI - Cydymaith?

MPLA0203AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.