CompTIA CompTIA DataX

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Mae CompTIA DataX yn ardystiad ar lefel arbenigwr ar gyfer gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes data. Mae’n profi y gallwch chi:
- Ymdrin â setiau data cymhleth
- Defnyddio dysgu peirianyddol a modelau ystadegol
- Gyrru mewnwelediadau busnes trwy ddadansoddi uwch
- Gweithredu’n hyderus ar draws y cwmwl ac amgylchedd ar y safle
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol. Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser am ddim sy’n cynnig dysgu hyblyg, cyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru ac sydd mewn cyflogaeth. Nid yw’r terfyn cyflog o £34,303 yn berthnasol ar gyfer y cwrs hwn.
...unrhyw un sydd â dealltwriaeth gryf o ystadegau, modelu, dysgu peirianyddol a gweithrediadau data.
...uwch-wyddonwyr data, peirianwyr dysgu peirianyddol, ymgynghorwyr gwyddor data, arweinwyr technegol, dadansoddwyr profiadol a pheirianwyr sy’n symud i rolau strategol neu arweinyddiaeth ym maes gwyddor data.
Cynnwys y cwrs
Cyflwynir y cwrs hwn drwy ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn gyfatebol i gyrsiau a gyflwynir wyneb yn wyneb mewn ystafelloedd dosbarth ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Hyd y cwrs: 5 diwrnod
Trwy gydol y cwrs, byddwch chi’n dysgu am y canlynol:
- Mathemateg ac Ystadegau
- Modelu, Dadansoddi a Chanlyniadau
- Dysgu Peirianyddol
- Gweithrediadau a Phrosesau Gwyddor Data
- Rhaglenni Gwyddor Data arbenigol
Gofynion Mynediad
Cynrychiolwyr sy’n meddu ar bum mlynedd neu fwy o brofiad ym maes gwyddor data, cyfrifiadureg neu feysydd cysylltiedig.
Bydd angen mynediad i’r rhyngrwyd arnoch chi, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera / meicroffon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nod y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn dechrau eu dysgu, yn ystod eu dysgu ac ar ôl eu dysgu.
Cyn i chi gael eich cofrestru ar eich cwrs a ariennir gan y rhaglen Cyfrif
Dysgu Personol, trafodir cynllun dysgu unigol gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
- profiad blaenorol yn y diwydiant neu’r maes
- dyheadau gyrfa
- ymroddiad amser angenrheidiol
MPLA0202AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.