En

CompTIA CompTIA Server+

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir Mae astudio'n gyfwerth â chyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'i cyflwynir mewn amgylchedd ar-lein.
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Bydd yr arholiad CompTIA+ yn ardystio fod yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i osod, ffurfweddu a rheoli caledwedd gweinyddion a systemau gweithredu (operating systems - OS) drwy roi rheolaethau diogelwch priodol ar waith, llwyddo i ddatrys problemau gweinyddion cyffredin, a dangos dealltwriaeth o gysyniadau allweddol sy’n ymwneud ag adfer wedi digwyddiad difrifol.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd o ddysgu hyblyg a chyfleus sy’n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Unrhyw un sy'n 19 oed neu'n hŷn, yn byw yng Nghymru ac sy'n gyflogedig. Nid yw'r terfyn cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol i'r cwrs hwn.

... unrhyw un sydd am fireinio ei wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i osod, rheoli a datrys problemau gweinyddion mewn unrhyw amgylchedd.

Cynnwys y cwrs

Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno drwy ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn gyfwerth â chyrsiau wyneb yn wyneb mewn ystafelloedd dosbarth, ond maent yn cael eu 

cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 5 Diwrnod

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn:

  • Deall cysyniadau gweinyddu gweinyddion.
  • Deall rhithwiroli a chyfrifiadura cwmwl.
  • Deall cysyniadau diogelwch corfforol a rhwydweithiau.
  • Rheoli stocrestrau ac asedau corfforol.
    • Rheoli caledwedd gweinyddion.
    • Ffurfweddu rheolaeth storfeydd.
    • Gosod a ffurfweddu OS.
    • Datrys problemau OS a gosodiadau apiau a rhwydweithiau.
    • Cynnal a rheoli gweinyddion ar ôl eu gosod.
    • Rheoli diogelwch data.
    • Rheoli argaeledd gwasanaethau a data.
    • Dad-gomisiynu gweinyddion.

Gofynion Mynediad

Dylai mynychwyr feddu ar sgiliau TG sylfaenol sy'n gyfwerth â 18-24 mis o brofiad. Argymhellir ardystiad CompTIA A+ neu wybodaeth gyfwerth yn gryf, ond nid yw hyn ofynnol.

Bydd angen i chi fod â mynediad at y rhyngrwyd a chyfrifiadur Windows gyda gwegamera/microffon.

Gwybodaeth Ychwanegol

Nod y rhaglen PLA yw darparu cyngor a chyfarwyddyd gyrfaol o ansawdd uchel i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu haddysg.

Cyn cofrestru ar gyfer eich cwrs a ariennir gan PLA, byddwn yn trafod cynllun dysgu personol â chi i sicrhau eich bod wedi ystyried y llwybr addysg sydd mwyaf addas i chi.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
  • profiad blaenorol yn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • neilltuo'r amser sydd ei angen i gwblhau'r cwrs
Ble alla i astudio CompTIA CompTIA Server+?

MPLA0201AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.