CompTIA Security X

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Mae CompTIA SecurityX yn ardystiad seiberddiogelwch lefel uwch ar gyfer penseiri diogelwch ac uwch-beirianwyr diogelwch sy’n gyfrifol am arwain a gwella parodrwydd seiberddiogelwch menter.
Mae SecurityX yn ardystiad ymarferol sy’n seiliedig ar berfformiad ar gyfer ymarferwyr uwch — nid rheolwyr — ar lefel sgiliau uwch seiberddiogelwch. Er bod rheolwyr seiberddiogelwch yn helpu i adnabod pa bolisïau a fframweithiau y gellir eu rhoi ar waith, mae gweithwyr proffesiynol sy’n meddu ar ardystiad SecurityX yn gweithio allan sut i roi atebion ar waith o fewn y polisïau a’r fframweithiau hynny.
Mae’r cwrs CompTIA SecurityX yn trafod yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ddyfeisio, cynllunio, integreiddio a gweithredu atebion diogel ar draws amgylcheddau cymhleth i gefnogi menter wydn wrth ystyried effaith gofynion llywodraethiant, risg a chydymffurfiaeth.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru ac sydd mewn cyflogaeth. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £34,303 yn berthnasol ar gyfer y cwrs hwn.
...ar gyfer penseiri diogelwch ac uwch-beirianwyr diogelwch sy’n gyfrifol am arwain a gwella parodrwydd seiberddiogelwch menter.
Cynnwys y cwrs
Cyflwynir y cwrs hwn drwy ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn gyfatebol i gyrsiau a gyflwynir wyneb yn wyneb mewn ystafelloedd dosbarth ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Hyd y cwrs: 5 diwrnod
Trwy gydol y cwrs, byddwch chi’n dysgu am y canlynol:
Pensaernïaeth Ddiogelwch Dadansoddi gofynion diogelwch mewn rhwydweithiau hybrid i weithio tuag at bensaernïaeth ddiogelwch sero ymddiriedaeth ar draws menter sydd ag atebion cwmwl a rhithwir diogel uwch.
Peirianneg Ddiogelwch a Chryptograffi Ffurfweddiadau ar gyfer rheoleiddwyr diogelwch pwynt terfyn, symudedd menter, amgylcheddau cwmwl/hybrid ac atebion PKI a chryptograffi ar draws y fenter.
Gweithrediadau Diogelwch Mynd i’r afael â rheoli bygythiadau uwch, rheoli bregusrwydd, lliniaru risg, tactegau ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau a dadansoddi fforensig digidol.
Llywodraethiant, Risg, a Chydymffurfiaeth Profi metreg gwydnwch cyffredinol sefydliad a chydymffurfiaeth â rheoliadau megis CMMC, PCI-DSS, SOX, HIPAA, GDPR, FISMA, NIST a CCPA.
Gofynion Mynediad
Cymhwyster ar lefel arbenigwr i gynrychiolwyr sy’n meddu ar nifer o flynyddoedd o brofiad ymarferol mewn rolau diogelwch gan feddu ar wybodaeth gryf am egwyddorion diogelwch, rheoli risg ac ymateb i ddigwyddiadau.
Bydd angen mynediad i’r rhyngrwyd arnoch chi, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera / meicroffon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nod y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn dechrau eu dysgu, yn ystod eu dysgu ac ar ôl eu dysgu.
Cyn i chi gael eich cofrestru ar eich cwrs a ariennir gan y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol, trafodir cynllun dysgu unigol gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig.
- profiad blaenorol yn y diwydiant neu’r maes · dyheadau gyrfa.
- ymroddiad amser angenrheidiol.
MPLA0200AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.