En

CSSC Cymhwyster Gwregys Melyn Lean Six Sigm

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir Mae astudio'n gyfwerth â chyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'i cyflwynir mewn amgylchedd ar-lein.
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Dechreuwch ar eich taith Lean Six Sigma gyda'r cwrs hwn sydd wedi'i ariannu'n llawn a’i achredu gan y Council for Six Sigma Certification (CSSC). Dysgwch egwyddorion craidd gwella prosesau, datrys problemau a lleihau gwastraff—sylfaen delfrydol i weithwyr proffesiynol sy'n awyddus i gael effaith ar eu gweithle.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un sydd dros 19 oed, yn byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £32,371 y flwyddyn.

... oedolion cyflogedig yng Nghymru sydd am fagu eu hyder yn y maes gwella prosesau gan ddefnyddio Lean Six Sigma.

...gweithwyr proffesiynol ym mhob sector—gan gynnwys gofal iechyd, gweithgynhyrchu, gwasanaethau cyhoeddus, logisteg a manwerthu—sy'n newydd i Lean Six Sigma neu sydd am gyfrannu at brosiectau gwella fel rhan o dîm ehangach.

Cynnwys y cwrs

Cynhelir y cwrs mewn ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn gyfwerth â chyrsiau wyneb yn wyneb mewn 

ystafelloedd dosbarth, ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 3 Diwrnod

Wedi'i ysbrydoli gan fethodolegau byd-eang mwyaf llwyddiannus y meysydd peirianneg brosesau a rheoli ansawdd, mae Cymhwyster Gwregys Melyn Lean Six Sigma yn rhoi cyflwyniad ymarferol i feddwl am Lean a thechnegau Six Sigma.

Byddwch yn archwilio egwyddorion Lean allweddol, gan gynnwys Gwelliant Parhaus, adnabod y 7 Ffordd o Wastraffu a methodolegau 5S. Byddwch wedyn yn symud ymlaen i'r offer a chysyniadau hanfodol a ddefnyddir ar bob cam o'r fframwaith DMAIC:

Diffinio eich problem

Deall Llais y Cwsmer

Cyfrifo Cost Ansawdd Wael

Cymhwyso'r Egwyddor Pareto

Cynnal dadansoddiad graffigol sylfaenol

Perfformio Dadansoddiad Achos Gwraidd

Gweithredu a chynnal gwelliannau i brosesau

Ar ôl cwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn ennill Ardystiad Gwregys Melyn mewn Lean Six Sigma sydd wedi'i achredu gan y Council for Six Sigma Certification (CSSC) — cymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang sy'n brawf o'ch dealltwriaeth o fethodolegau Lean Six Sigma.

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, ond fe asesir ymrwymiad i gwblhau'r cwrs yn unol â dyheadau ar gyfer y dyfodol ar adeg ymgeisio.

Bydd angen i chi fod â mynediad at y rhyngrwyd ac yn meddu ar gyfrifiadur gyda gwegamera/microffon.

Gwybodaeth Ychwanegol

Nod y rhaglen PLA yw darparu cyngor a chyfarwyddyd gyrfaol o ansawdd uchel i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu haddysg.

Cyn cofrestru ar gyfer eich cwrs a ariennir gan PLA, byddwn yn trafod cynllun dysgu personol â chi i sicrhau eich bod wedi ystyried y llwybr addysg sydd mwyaf addas i.

Bydd hyn yn cynnwys sgwrs gyffredinol am y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
  • profiad blaenorol yn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • neilltuo'r amser sydd ei angen i gwblhau'r cwrs
Ble alla i astudio CSSC Cymhwyster Gwregys Melyn Lean Six Sigm?

MPLA0197AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.