En

CSSC CSSC Lean Six Sigma Haen Gwyrdd

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir Mae astudio'n gyfwerth â chyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'i cyflwynir mewn amgylchedd ar-lein.
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Symudwch eich sgiliau gwella prosesau yn eu blaen trwy’r cwrs Lean Six Sigma Haen Gwyrdd hwn a gydnabyddir gan ddiwydiant ac a ariennir yn llawn. Wedi’i achredu gan Council for Six Sigma Certification (CSSC), mae’r cwrs hwn yn eich paratoi i arwain prosiectau gwella a arweinir gan ddata sy’n cyflenwi canlyniadau mesuradwy a newid cynaliadwy.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol.Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser am ddim sy’n cynnig dysgu hyblyg, cyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru ac sydd mewn cyflogaeth gan ennill yn llai na £32,371 y flwyddyn.

...oedolion mewn cyflogaeth yng Nghymru sy’n dymuno datblygu’r gallu i arwain neu gefnogi prosiectau gwella yn eu sefydliadau.

...ar gyfer gweithwyr proffesiynol ar draws sectorau megis gweithgynhyrchu, gofal iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, logisteg a manwerthu sy’n dymuno gwella prosesau, lleihau gwastraff a gwella perfformiad gan ddefnyddio methodolegau Lean Six Sigma strwythuredig.

Cynnwys y cwrs

Cyflwynir y cwrs hwn drwy ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn gyfatebol i gyrsiau a gyflwynir wyneb yn wyneb mewn ystafelloedd dosbarth ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y cwrs:

5 diwrnod Mae ein cwrs Lean Six Sigma Haen Gwyrdd wedi’i ddylunio i ddyfnhau eich deallwriaeth o wella prosesau trwy roi’r offer a’r technegau angenrheidiol i chi arwain prosiectau llwyddiannus gan ddefnyddio methodoleg DMAIC (Diffinio, Mesur, Dadansoddi, Gwella, Rheoleiddio).

Yn ystod y cyfnod Diffinio, byddwch chi’n dysgu sut i lefaru datganiad y brobelm yn glir, mapio prosesau gan ddefnyddio diagramau SIPOC a chasglu Llais y Cwsmer i sicrhau bod prosiectau’n alinio gydag anghenion busnes. Byddwch chi’n dewis prosiectau yn strategol, yn datblygu siarter y prosiect ac yn meistroli offer cynllunio a chyfathrebu hanfodol i ennyn diddordeb rhanddeiliaid yn effeithiol.

Yn ystod y cyfnod Mesur, mae’r ffocws yn symud i gasglu data. Byddwch chi’n deall pwysigrwydd data o safon, adnabod ffactorau ansawdd gritigol ac asesu cost ansawdd gwael. Byddwch chi’n defnyddio mapio prosesau, yn dylunio cynlluniau casglu data ac yn gwerthuso systemau mesur trwy astudiaethau Gauge R&R. Bydd offer ystadegol megis histogramau, siartiau rhedeg, siartiau rheoleiddio a phlotiau gwasgaru yn eich helpu chi i fesur perfformiad a galluedd prosesau.

Mae’r cyfnod Dadansoddi yn eich addysgu sut i ganfod achosion gwraidd problemau gan ddefnyddio technegau profedig megis diagramau Ishikawa a’r dadansoddiad 5 pam. Byddwch chi’n ennill sgiliau ym maes gwneud penderfyniadau consensus a dilysu achosion gwraidd trwy offer graffigol gan gynnwys plotiau blwch, cydberthyniad, atchweliad, a phrofi hypothesis i wneud penderfyniadau a arweinir gan ddata.

Yn y cyfnod Gwella, byddwch chi’n archwilio datblygu atebion trwy hel syniadau, defnyddio metreg gwneud penderfyniadau megis Dadansoddiad Pugh a Dadansoddiad Force Field a gwerthuso gwelliannau posibl gyda dadansoddiadau cost-buddion a Moddau Methiant a Dadansoddi Effeithiau (FMEA). Byddwch chi hefyd yn dysgu sut i beilota atebion i sicrhau eu bod yn cyflenwi canlyniadau dymunol.

Yn olaf, mae’r cyfnod Rheoleiddio yn canolbwyntio ar gynnal gwelliannau. Byddwch chi’n sefydlu gweithdrefnau gweithredu safonol, yn creu cynlluniau rheoleiddio ac yn defnyddio siartiau rheoleiddio i fonitro perfformiad parhaus. Bydd hyfforddiant ar gyfer dulliau newydd a chipio gwersi a ddysgwyd yn helpu i gynnal enillion a gyrru gwelliant parhaus.

Ar lwyddo i gwblhau’r cwrs, byddwch chi’n ennill Ardystiad Haen Gwyrdd Lean Six Sigma, a achredwyd gan Council for Six Sigma Certification (CSSC) — sef cymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang sy’n profi eich dealltwriaeth o fethodolegau Lean Six Sigma.

Gofynion Mynediad

Yn ddelfrydol, bydd cyfranogwyr wedi cwblhau cwrs Haen Melyn Lean Six Sigma cyn cofrestru. Mae hyn yn sicrhau dealltwriaeth sylfaenol gadarn o gysyniadau Lean Six Sigma ac mae’n ein galluogi i drafod deunydd uwch yn ystod y rhaglen Haen Gwyrdd.

Bydd angen mynediad i’r rhyngrwyd arnoch chi, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera / meicroffon.

Gwybodaeth Ychwanegol

Nod y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn dechrau eu dysgu, yn ystod eu dysgu ac ar ôl eu dysgu.

Cyn i chi gael eich cofrestru ar eich cwrs a ariennir gan y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol, trafodir cynllun dysgu unigol gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried. Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol: 

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol yn y diwydiant neu’r maes
  • dyheadau gyrfa
  • ymroddiad amser angenrheidiol
Ble alla i astudio CSSC CSSC Lean Six Sigma Haen Gwyrdd?

MPLA0196AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.