Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Dyrchafwch eich arbenigedd mewn Lean Six Sigma gyda'r hyfforddiant uwch Gwregys Du hwn a ariennir yn llawn. Bydd y cwrs hwn, sydd wedi'i achredu gan y Council for Six Sigma Certification (CSSC), yn darparu'r sgiliau strategol, dadansoddol ac arweinyddiaeth sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol profiadol i arwain mentrau gwella ansawdd cymhleth ar draws unrhyw ddiwydiant.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd o ddysgu hyblyg a chyfleus sy’n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...Unrhyw un sy'n 19 oed neu'n hŷn, sy’n byw yng Nghymru ac sydd mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol i'r cwrs hwn.
...ar gyfer oedolion sy'n gyflogedig yng Nghymru mewn rôl lle mae modd arwain prosiectau gwella ansawdd uwch ar draws eu sefydliad.
...ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn sectorau megis gweithgynhyrchu, gofal iechyd, logisteg, manwerthu a gwasanaethau cyhoeddus sy'n gyfrifol am yrru newid a gwelliannau mewn perfformiad.
Cynnwys y cwrs
Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn gyfwerth â chyrsiau wyneb yn wyneb mewn ystafelloedd dosbarth, ond cânt eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Hyd y Cwrs: 10 Diwrnod
Byddwch yn symud trwy'r fframwaith DMAIC gyda phecyn cymorth cynhwysfawr:
Yn ystod y cam Diffinio, byddwch yn dysgu sut i fynegi'r datganiad problem yn glir, mapio prosesau drwy ddefnyddio diagramau SIPOC a dal Llais y Cwsmer i sicrhau bod prosiectau'n cyd-fynd ag anghenion busnes. Byddwch yn dewis prosiectau mewn modd strategol, yn datblygu siarter prosiect ac yn meistroli offer cynllunio a chyfathrebu hanfodol i ymgysylltu â rhanddeiliaid yn effeithiol. Byddwch hefyd yn dysgu technegau uwch megis Mapio Llif Gwerth, dadansoddiadau SWOT a PESTLE a modelau datblygu tîm megis rhai gan Belbin, Tuckman, ac Adaire er mwyn mynd ati’n hyderus i arwain ac ysgogi timau prosiect.
Yn ystod y cam Mesur, byddwch yn dysgu am bwysigrwydd data o ansawdd, yn nodi ffactorau sy'n hollbwysig i ansawdd, ac yn asesu cost ansawdd wael. Byddwch yn mapio prosesau, yn dylunio cynlluniau casglu data ac yn gwerthuso systemau mesur trwy astudiaethau Gauge R&R. Bydd offer ystadegol fel histogramau, siartiau rhedeg, siartiau rheoli a phlotiau gwasgariad yn helpu i
fesur perfformiad a gallu prosesau. Gan adeiladu ar hyn, byddwch yn defnyddio meddalwedd Minitab ar gyfer Gauge R&R a Dadansoddi Gallu, yn ogystal â'r gyfres lawn o siartiau ystadegol i gasglu a dilysu data o ansawdd uchel er mwyn cyflawni mesuriadau manwl gywir.
Bydd y cam Dadansoddi yn eich dysgu sut i ddatgelu achosion sylfaenol gan ddefnyddio technegau profedig megis diagramau Ishikawa (‘asgwrn pysgodyn’) a'r 5 Pam. Byddwch yn meithrin sgiliau gwneud penderfyniadau yn ôl consensws ac yn dilysu achosion sylfaenol trwy offer graffigol gan gynnwys plotiau blwch, cydberthynas, atchweliad, a phrofi damcaniaethau i wneud penderfyniadau a lywir gan ddata. Bydd cam hwn yn mynd ymhellach gyda Dylunio Arbrofion (Design of Experiments - DOE), profi rhagdybiaethau uwch a dadansoddi data soffistigedig o fewn Minitab.
Bydd y cam Gwella yn datblygu eich galluoedd mewn arweinyddiaeth a rheoli newid, gan gynnwys arwain sesiynau taflu syniadau, rheoli gwrthdaro, dylanwadu ar arddulliau, a chymhwyso offer gwneud penderfyniadau megis Dadansoddi Meysydd Grym a'r Pugh Matrix. Byddwch hefyd yn Mapio Cyflwr y Dyfodol i allu dylunio prosesau wedi'u hoptimeiddio.
Yn ystod y cam Rheoli, byddwch yn adeiladu ar gynlluniau a siartiau rheoli sylfaenol drwy sefydlu systemau monitro, mentora a hyfforddi aelodau tîm, cymhwyso technegau cynnal gwelliant uwch,
a gosod gweithdrefnau gweithredu safonol i sicrhau llwyddiant parhaol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill Ardystiad Gwregys Du mewn Lean Six Sigma sydd wedi'i achredu gan y Council for Six Sigma Certification (CSSC) — cymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang sy'n brawf o'ch dealltwriaeth o fethodolegau Lean Six Sigma.
Gofynion Mynediad
Dylai cyfranogwyr fod mewn sefyllfa i arwain a chyflawni prosiect gwella ansawdd sylweddol o fewn eu sefydliad. Nid yw ardystiad blaenorol o Lean Six Sigma yn ofynnol, ond mae dealltwriaeth gref o brosesau busnes a pharodrwydd i ysgwyddo cyfrifoldeb strategol yn hanfodol.
Bydd angen i chi fod â mynediad at y rhyngrwyd a chyfrifiadur Windows gyda gwegamera/microffon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nod y rhaglen PLA yw darparu cyngor a chyfarwyddyd gyrfaol o ansawdd uchel i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu haddysg.
Cyn cofrestru ar gyfer eich cwrs a ariennir gan PLA, byddwn yn trafod cynllun dysgu personol â chi i sicrhau eich bod wedi ystyried y llwybr addysg sydd mwyaf addas i chi.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
- profiad blaenorol yn y diwydiant neu faes
- dyheadau gyrfa
- neilltuo'r amser sydd ei angen i gwblhau'r cwrs
MPLA0195AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.