En

AWS Certified Ymarferydd Deallusrwydd Artiffisial - Sylfaenol

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Ardystiad lefel mynediad sy’n dilysu eich dealltwriaeth o Ddeallusrwydd Artiffisial, dysgu peirianyddol, a chysyniadau cynhyrchiol deallusrwydd artiffisial – yn enwedig sut maent yn cael eu defnyddio gan ddefnyddio gwasanaethau AWS.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol. Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrisau rhan-amser am ddim sy’n cynnig dysgu hyblyg, cyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

… unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru ac sydd mewn cyflogaeth. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol ar gyfer y cwrs hwn.

...unigolion sy’n dymuno ennill dealltwriaeth o gysyniadau Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol heb angen arbenigedd technegol dwys.

Cynnwys y cwrs

Cyflwynir y cwrs hwn drwy ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn gyfatebol i gyrsiau a gyflwynir wyneb yn wyneb mewn ystafelloedd dosbarth ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 1 Diwrnod

Drwy gydol y cwrs, byddwch chi’n dysgu’r canlynol:

  • Hanfodion Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol
  • Hanfodion Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol
  • Defnyddio Modelau Sylfaenol
  • Canllawiau ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial Cyfrifol
  • Diogelwch, Cydymffurfiaeth a Llywodraethiant ar gyfer Datrysiadau Deallusrwydd Artiffisial

Gofynion Mynediad

Dim Gofynion Mynediad Blaenorol Ffurfiol

Bydd angen mynediad i’r rhyngrwyd arnoch chi, cyfrifiadur  Windows a gwe-gamera / meicroffon.

Gwybodaeth Ychwanegol

Nod y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn dechrau eu dysgu, yn ystod eu dysgu ac ar ôl eu dysgu.

Cyn i chi gael eich cofrestru ar eich cwrs a ariennir gan y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol, trafodir cynllun dysgu unigol gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol yn y diwydiant neu’r maes
  • dyheadau gyrfa
  • ymroddiad amser angenrheidiol
Ble alla i astudio AWS Certified Ymarferydd Deallusrwydd Artiffisial - Sylfaenol ?

MPLA0192AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.