EAL Dyfarniad EAL mewn Arolygu Gosodiadau Trydanol, Profi, Ardystio ac Adrodd Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Adeiladu
Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2025
Hyblyg
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno astudio ar gwrs Gosodiadau Trydanol – Archwilio a Phrofi/Dilysu Cychwynnol.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o gynllun Cyfrif Dysgu Personol. Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser am ddim gan gynnig dysgu hyblyg a chyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru, sydd mewn cyflogaeth ac sy’n ennill yn llai na £32,371 y flwyddyn
...trydanwyr/goruchwylwyr cymwysedig sydd â phrofiad ym maes archwilio a phrofi ac ardystio gosodiadau trydanol. Mae’r cwrs hwn ar gyfer Archwilio a Phrofi yn unig.
Cynnwys y cwrs
Un arholiad aml-ddewis ar-lein a dau asesiad archwilio a phrofi ymarferol. Mae dysgu cyn dechrau ar y cwrs yn hanfodol. Mae’n rhaid eich bod chi’n meddu ar wybodaeth weithiol am BS7671 a Nodyn Canllaw 3. Mae hwn yn gwrs atodol gan ychwanegu at y cymhwyster Gosodiad Trydanol Lefel 3.
Gofynion Mynediad
Gofynion y cwrs yw; yn ddelfrydol, Lefel 3 mewn Gosodiad Trydanol, fodd bynnag. Neu, efallai y caniateir cymhwyster Lefel 2 ar yr amod bod y myfyriwr wrthi’n gweithio yn y diwydiant Gosodiadau Trydanol ac yn chymryd rhan mewn gweithgarwch profi ac archwilio yn y gweithle.
Gwybodaeth Ychwanegol
Trafodir dyddiadau’r cwrs yn ystod y broses ymgeisio. Cynhelir y cwrs hwn trwy ein campws Parth Dysgu Blaenau Gwent. Bydd angen mynychu cyfweliad cyn i unrhyw un gael mynediad i’r cwrs.
MPLA0190AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.