Prentisiaeth - Saernïaeth Bensaernïol Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Prentisiaethau
Dysgu Agored/o Bell
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Sector
Adeiladu
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Mae prentisiaeth mewn Gwaith Asiedydd yn gwrs 3½ blynedd lle rydych chi'n gyflogedig gan gwmni gwaith coed neu gwmni adeiladu ac yn mynychu'r coleg un diwrnod yr wythnos.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Tra byddwch ar y safle gyda'ch cyflogwr byddwch yn meithrin sgiliau a phrofiad o weithio ar dasgau gwaith coed. Ar y dechrau, byddwch yn gwneud tasgau lefel isel ac yn helpu asiedydd cymwys i wneud eu gwaith; ond dros amser, byddwch yn ennill profiad fel y gallwch gwneud gwaith asiedydd eich hun. Byddwch yn cael eich asesu ar y safle yn gwneud amrywiaeth o dasgau gwaith coed ar ddiwedd y cwrs. Dyma'r “Prosiect Ymarferol Terfynol” lle bydd asesydd o'r coleg yn ymweld â chi am nifer o ddyddiau i gadarnhau eich cymhwysedd.
Cynnwys y cwrs
Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg un diwrnod yr wythnos, ac mae'n cynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin â phynciau penodol, yn ogystal â sgiliau Llythrennedd a Rhifedd os oes angen.
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
Sesiynau ymarferol mewn gweithdai lle ceir cyfleusterau o’r radd flaenaf
Hyfforddiant mewn amgylchedd gwaith realistig
Gwersi theori mewn ystafelloedd dosbarth llawn cyfarpar
Ymweliadau gan Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith
Trafodaethau
Arddangosiadau
Sesiynau tiwtorial un i un a sesiynau tiwtorial grŵp
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o gymwysterau Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol, os oes angen.
Gofynion Mynediad
Isafswm o ddau TGAU gradd A* i D mewn Saesneg, Cymraeg neu Fathemateg
neu
Dylech fod wedi cyflawni cymhwyster ôl-16 Lefel 1 neu Lefel 2 mewn Adeiladu.
a
meddu ar o leiaf blwyddyn o brofiad mewn sgiliau bywyd ar ôl gadael addysg orfodol
a
A rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr sy'n gallu bodloni meini prawf y cymhwyster prentisiaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gellir cwblhau'r brentisiaeth hon mewn 3 blynedd os oes gennych Graidd Lefel 2 mewn Peirianneg Adeiladu neu Wasanaethau Adeiladu sydd hefyd ar gael trwy ein cynnig llawn amser a rhan amser.
AWBL0621AA
Campws Dinas Casnewydd
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch apprenticeships@coleggwent.ac.uk.