Prentisiaeth - Gweithrediadau Peirianneg Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Prentisiaethau
Dysgu Agored/o Bell
Lleoliad
Campws Crosskeys
Sector
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Mae prentisiaeth mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg yn gwrs 2 flynedd lle rydych chi'n cael eich cyflogi ac yn mynychu'r coleg 1 diwrnod/wythnos.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Mae'r rhaglen hon yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa fel gweithredwr peirianneg a gall arwain at addysg bellach neu brentisiaethau peirianneg mwy datblygedig.
Cynnwys y cwrs
Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
Cwblhau portffolio o dystiolaeth
Arsylwadau yn y gweithle
Tasgau a phrofion theori
Gofynion Mynediad
Isafswm o bedwar TGAU gradd D neu uwch gan gynnwys Mathemateg gradd C; neu gymhwyster Diploma Peirianneg Lefel 1 priodol a TGAU Mathemateg gradd C.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cwblheir Diploma NVQ Lefel 2 mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg yn y gweithle. Cwblheir y Diploma Lefel 2 neu Lefel 3 mewn Peirianneg yn rhan-amser yn y Coleg.
AWBL0401AA
Campws Crosskeys
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch apprenticeships@coleggwent.ac.uk.