En

Prentisiaeth - Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Trwm Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Prentisiaethau

Dull Astudio
Dull Astudio
Dysgu Agored/o Bell
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Sector

Sector
Peirianneg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae prentisiaeth mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Trwm yn gwrs 2 flynedd lle rydych chi'n cael eich cyflogi gan gwmni cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau, fel arfer garej, ac yn mynychu'r coleg 1 diwrnod/wythnos.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Bydd prentisiaid (Lefel 3) yn hyfforddi fel:

Technegwyr Diagnostig neu Uwch Dechnegwyr, gan ddysgu sut i wneud diagnosis, profi a thrwsio amrywiaeth o gerbydau.

Cynnwys y cwrs

Mae hyfforddiant technegol yn cael ei ddarparu yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
Cwblhau portffolio o dystiolaeth
Arsylwadau yn y gweithle
Tasgau a phrofion theori

Gofynion Mynediad

Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau a chwblhau TGAU Mathemateg a Saesneg yn llwyddiannus i Radd C.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cwblheir Diploma Lefel 3 mewn Cymhwysedd Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Trwm yn y gweithle. Cwblheir y Diploma Lefel 3 mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Trwm yn rhan-amser yn y Coleg.

Ble alla i astudio Prentisiaeth - Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Trwm Lefel 3?

AWBL0183AA
Campws Dinas Casnewydd

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch apprenticeships@coleggwent.ac.uk.