
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Prentisiaethau
Dysgu Agored/o Bell
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Sector
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Mae prentisiaeth mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn yn gwrs 2 flynedd lle rydych chi'n cael eich cyflogi gan gwmni cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau, fel arfer garej, ac yn mynychu'r coleg 1 diwrnod/wythnos.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Bydd prentisiaid (Lefel 3) yn hyfforddi fel:
Technegwyr Diagnostig neu Uwch Dechnegwyr, gan ddysgu sut i wneud diagnosis, profi a thrwsio amrywiaeth o gerbydau.
Cynnwys y cwrs
Mae hyfforddiant technegol yn cael ei ddarparu yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
Cwblhau portffolio o dystiolaeth
Arsylwadau yn y gweithle
Tasgau a phrofion theori
Gofynion Mynediad
Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau a chwblhau TGAU Mathemateg a Saesneg yn llwyddiannus i Radd C.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cwblheir Diploma Lefel 3 mewn Cymhwysedd Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn yn y gweithle. Cwblheir y Diploma Lefel 3 mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn yn rhan-amser yn y Coleg.
AWBL0167AA
Campws Dinas Casnewydd
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch apprenticeships@coleggwent.ac.uk.