Prentisiaeth - Gwneuthuriad Offer Peirianneg Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Prentisiaethau
Dysgu Agored/o Bell
Lleoliad
Campws Crosskeys
Sector
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Mae prentisiaeth mewn Gwneud Offer Peirianneg yn gwrs 2 flynedd lle rydych chi'n cael eich cyflogi ac yn mynychu'r coleg 1 diwrnod yr wythnos.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwneud Offer Peirianneg sy'n dysgu unigolion i ddod yn wneuthurwyr offer medrus. Mae hyn yn cynnwys datblygu cymwyseddau mewn meysydd fel iechyd a diogelwch, CAD (Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur), peiriannu manwl gywir, a chynnal a chadw systemau mecanyddol a thrydanol.
Cynnwys y cwrs
Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
Cwblhau portffolio o dystiolaeth
Arsylwadau yn y gweithle
Tasgau a phrofion theori
Gofynion Mynediad
5 TGAU gradd C neu uwch gan gynnwys C mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith a B mewn Mathemateg, ynghyd â thri gradd C arall (Gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig yn ddelfrydol), neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 priodol gyda phroffil Teilyngdod yn llwyddiannus. Bydd dysgwyr mwy aeddfed yn cael eu hystyried yn seiliedig ar gymwysterau mynediad a/neu eich profiad.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cwblheir Diploma NVQ Lefel 3 mewn Gwneud Offer Peirianneg yn y gweithle. Cwblheir y Diploma Lefel 3 mewn Technolegau Peirianneg neu'r Diploma Cenedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg yn rhan-amser yn y Coleg.
AWBL0011AA
Campws Crosskeys
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch apprenticeships@coleggwent.ac.uk.