Yn gryno
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu chi i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i'n cwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu unrhyw gyrsiau lefel 3 eraill.
Mae wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr sydd, o bosib, wedi bod allan o addysg lawn amser am 2 flynedd o leiaf, er mwyn eich helpu i loywi a dysgu'r sgiliau astudio hanfodol sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
.....Ydych yn chwilio am gyflogaeth a byddech yn hoffi datblygu set sgiliau fwy amrywiol
.....Ydych wedi bod allan o addysg am 2 flynedd o leiaf ac rydych yn awyddus i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch
.....Ydych yn benderfynol o wneud yn dda ac eisiau gwella eich sgiliau
Nod y cwrs yw gwella eich sgiliau rhifedd a llythrennedd drwy gynnig Lefel 1 Mathemateg a Lefel 2 Saesneg. Byddwch hefyd yn cael cyflwyniad i Fioleg, Gwyddoniaeth Gyffredinol, Cymdeithaseg, Seicoleg a'r Dyniaethau, a byddwch yn dysgu sgiliau ymchwil gwerthfawr, a fydd yn hanfodol ar gyrsiau Lefel 3 eraill.
Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o aseiniadau, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig a byddwch yn ennill:
- Astudiaeth Bellach neu Sgiliau Lefel 2
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn lledu eich sgiliau
- Gweithgareddau Sgiliau
Mae agwedd benderfynol at lwyddo, angerdd am ddysgu a diddordeb brwd i wella eich sgiliau rhifedd a llythrennedd yn angenrheidiol ar gyfer y cwrs hwn. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc â'r gallu i gymell eich hun.
Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn gallu symud ymlaen i gyflogaeth neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch. Mynediad i Addysg Uwch course.
Mae pob darpar fyfyriwr yn cael ei gyfweld a'i asesu cyn cael cynnig lle. Mae lefel sylfaenol o fathemateg (Mynediad 3 o leiaf) a Saesneg (Lefel 1 o leiaf) yn ofynnol ar gyfer y cwrs hwn.