Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn paratoi myfyrwyr yn benodol ar gyfer cyrsiau gradd megis Meddygaeth a Deintyddiaeth. Mae hefyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cyrsiau gradd yn ymwneud â gwyddorau meddygol megis Optometreg, Fferylliaeth, Ffarmacoleg, y Gwyddorau Biofeddygol, Radiograffeg a Ffisioleg. Darperir ystod o unedau cynnwys pynciau academaidd mewn bioleg, cemeg a ffisioleg yn ogystal ag amrywiaeth o unedau a ddyluniwyd i wella sgiliau academaidd myfyrwyr. Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymrwymo i raglen o leoliadau profiad gwaith mewn lleoliad gofal iechyd drwy gydol y cwrs.
... Rydych chi’n bodloni’r meini prawf derbyn
... Mae gennych ddiddordeb mawr mewn unrhyw ddisgyblaeth gwyddoniaeth
... Rydych eisiau astudio llwybr Meddygaeth yn y Brifysgol
... Rydych eisiau gweithio mewn gyrfa sy’n ymwneud â llwybr Meddygaeth
Bydd y cwrs yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i’ch helpu i fodloni eich targed.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau megis Biocemeg, Anatomeg, Ffisioleg, Technoleg DNA, Cemeg, Mathemateg a Ffiseg, sydd oll wedi’u teilwra i gefnogi eich astudiaethau academaidd i’r dyfodol yn y brifysgol. Hefyd, byddwch yn cyflawni prosiect ymchwil archwilio, datblygu eich sgiliau astudio a mynd ar brofiad gwaith mewn lleoliadau gofal iechyd lleol.
Dyfernir y Diploma Mynediad i Addysg Uwch gan Agored Cymru. Os byddwch yn llwyddo yn y cwrs, byddwch yn cael diploma Mynediad i Feddygaeth gan Agored Cymru.
Cwrs paratoadol naw mis yw hwn ar gyfer graddau prifysgol, felly mae angen ymrwymo’n llawn er mwyn llwyddo. Disgwylir presenoldeb ac amseroldeb ardderchog yn ogystal ag astudio y tu allan i oriau gwersi. Mae’n bwysig eich bod chi’n meddwl sut fyddwch chi’n cydbwyso’r gwaith gyda’ch bywyd teuluol ac unrhyw ymrwymiadau eraill allai fod gennych.
- Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad gyda phrawf gallu i asesu sgiliau ysgrifennu a’ch ddelfrydol ar Lefel A (gan gynnwys un ai Lefel A mewn Bioleg neu Gemeg neu Fathemateg).
- Os ydych chi’n credu nad ydych wedi achub ar bob cyfle neu heb gael cyfle i gyflawni eich llawn botensial oherwydd eich profiad ysgol neu eich amgylchiadau personol
- You will need to provide a draft of a Personal Statement for UCAS, along with evidence of researching the degree you wish to study once you have gained your diploma.
- If you are intent on using this diploma to progress on to a Medicine or Dentistry degree course then it is important that you have already practiced and booked a UCAT test (see https://www.ucat.ac.uk)
Symud ymlaen i brifysgol i astudio gradd mewn pwnc Meddygol / Biowyddorau, megis Meddygaeth, Deintyddiaeth, Bioleg, Biofeddygaeth ac Optometreg.
- Rydych o leiaf 18 oed ac eisiau dechrau ar Addysg Uwch i astudio Meddygaeth neu Lwybr Meddygol (Deintyddiaeth, Optometreg)
- Mae gennych o leiaf 5 TGAU mewn Gwyddoniaeth, Mathemateg a Saesneg ar lefel gradd B (6) neu uwch
- Rydych eisoes wedi llwyddo i astudio ar Lefel 3, yn ddelfrydol ar Lefel A
- Os ydych chi’n credu nad ydych wedi achub ar bob cyfle neu heb gael cyfle i gyflawni eich llawn botensial oherwydd eich profiad ysgol neu eich amgylchiadau personol
Gall dysgwyr sydd ar y cwrs MYNEDIAD i feddygaeth elwa o gyfweliadau gwarantedig neu wedi'u blaenoriaethu gydag ysgolion yng Nghaerdydd a Bryste, cyn belled â'u bod yn bodloni'r meini prawf a bennwyd gan y prifysgolion.