Mynediad i Addysg Uwch

Yn barod am newid? Cymerwch y cam cyntaf gyda Mynediad i Addysg Uwch

Does dim ots ym mha gam bywyd yr ydych yn teimlo eich bod ynddo, neu pa bryd yr oeddech yn yr ystafell ddosbarth ddiwethaf, nid yw byth yn rhy hwyr i wireddu’ch breuddwydion.

Yn Coleg Gwent, mae ein cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch (AU) wedi’u cynllunio gyda dysgu oedolion mewn cof, i’ch cynorthwyo i feithrin y sgiliau a’r hyder i gymryd y cam nesaf tuag at radd prifysgol.

Dechrau o’r Newydd

Peidiwch â gadael i ddiffyg cymwysterau eich atal. Mae cyrsiau Mynediad i AU wedi eu teilwra ar gyfer oedolion sydd heb astudio ers peth cyfnod, gan gynnig ffordd gefnogol a strwythurol i baratoi am y brifysgol.

Byddwch yn dysgu:

  • Sut i ddelio ag astudio a rheoli’ch amser yn effeithiol
  • Technegau ymarferol i lwyddo fel myfyriwr
  • Gwybodaeth cwrs-benodol a fydd yn eich paratoi i lwyddo yn y brifysgol
  • Dysgu Cefnogol ar gyfer Bywydau Prysur

Wedi'u hadeiladu o Gwmpas Bywydau Gwirioneddol

Rydym yn deall fod bywyd yn llawn cyfrifoldebau, p’un a ydych yn magu plant, gofalu am anwyliaid, neu’n gweithio’n llawn amser. Dyna pam mae ein cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yn hyblyg.

Mae ein tiwtoriaid, nid yn unig yn arbenigwyr pwnc, ond yn fentoriaid sy’n deall, ac sydd yma i’ch helpu bob cam o’r daith.

Efallai eich bod yn gymwys am grantiau i’ch helpu â chostau astudio, fel y gallwch ganolbwyntio ar gyflawni eich nodau heb boen ariannol.

https://bloom-digital.s3.eu-west-2.amazonaws.com/coleg-gwent/wp-content/uploads/2025/07/14143217/Access-to-HE-feature-video-desktop.jpg

Amgylchedd Croesawus a Chalonogol

Gall cychwyn ar rywbeth newydd fod yn frawychus, yn arbennig os nad ydych wedi astudio ers peth amser. Peidiwch â phoeni, nid chi yw’r unig un sy’n teimlo fel hyn, mae llawer o bobl o’ch cwmpas yn teimlo fel hyn ac yn gallu uniaethu â chi, ond byddwch yn magu hyder gyda’n haddysgu arbenigol.

Peidiwch â phoeni am gael eich profi ar bethau yr ydych wedi eu hanghofio ers blynyddoedd; rydym yn canolbwyntio ar nawr ac yn darparu popeth y byddwch eu hangen i ffynnu yn y brifysgol.

Mae'r cwrs Mynediad i AU – Meddygaeth wedi bod yn borth perffaith i mi. Mae'r fformatau asesu wedi fy mharatoi ar gyfer y brifysgol, ac mae fy hyder wedi tyfu'n aruthrol!

Livia, Mynediad i Addysg Uwch

Llwybrau i’ch Dyfodol

Dewiswch o ystod o lwybrau Mynediad i Addysg Uwch, pob un wedi ei deilwra ar gyfer eich cael ar y cwrs gradd o’ch dewis ac ar y trywydd cywir am ddyfodol gwell.

P’un a ydych yn breuddwydio am yrfa mewn gofal iechyd, addysg, y gwyddorau cymdeithasol, neu faes arall, rydym yma i’ch cynorthwyo ar y daith.

Cyrsiau Mynediad

Hidlyddion

Sort by

Choose your options:

Choose your options:

Choose your options:

Choose your options:

Choose your fee range:

Choose your start date: