Coleg Gwent yn dathlu Dosbarth 2026
Enillodd 98.3% o fyfyrwyr yn y coleg raddau A* i E ar gyfer arholiadau Safon Uwch ac enillodd 1114 o fyfyrwyr BTEC radd basio neu uwch ar draws 11 o feysydd pwnc galwedigaethol gwahanol.
13 Awst 2026
Mae myfyrwyr yn Coleg Gwent – un o’r colegau addysg bellach mwyaf yng Nghymru – yn casglu canlyniadau BTEC, UG a Safon Uwch ar gampysau’r coleg heddiw (13 Awst).
Enillodd 98.3% o fyfyrwyr yn y coleg raddau A* i E ar gyfer arholiadau Safon Uwch ac enillodd 1114 o fyfyrwyr BTEC radd basio neu uwch ar draws 11 o feysydd pwnc galwedigaethol gwahanol.
Mae’r canlyniadau hyn yn nodi dechrau llawer o benodau cyffrous newydd wrth i ddysgwyr symud ymlaen i’r brifysgol, cyflogaeth, ac astudiaethau pellach ledled Cymru a’r tu hwnt iddi.
Yn eu plith, mae Chase Campbell o Crosskeys y mae ei ganlyniadau Safon Uwch eithriadol, A*AB, wedi ennill lle i astudio Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Rhydychen.
Dywedodd Chase, aelod effeithiol o Senedd Ieuenctid Cymru dros Flaenau Gwent: “Mae’r gefnogaeth fy mod wedi’i chael gan bawb yn Coleg Gwent wedi bod yn anhygoel. Mae fy nhiwtoriaid bob amser wedi fy annog i herio fy hun ac anelu’n uwch ac rwyf yn wir yn meddwl na fyddwn wedi bod yma heddiw hebddyn nhw. Rwy’n gyffrous iawn am ddechrau fy mhennod nesaf ym Mhrifysgol Rhydychen.”
Mae Lauren Cahalane, dysgwr arall sy’n dathlu ym Mharth Dysgu Torfaen, wedi rhagori yn ei harholiadau Safon Uwch mewn Seicoleg wrth wynebu sawl problem iechyd drwy gydol llawer o’i thaith academaidd.
Dywedodd Lauren: "Cefais adegau pan nad oeddwn yn siŵr beth fyddai’n digwydd erbyn diwedd y flwyddyn felly rwy’n hynod o falch o fod yn dathlu’r canlyniadau hyn heddiw. Mae wedi bod yn daith heriol ond rwyf wedi dysgu y gall penderfyniad a gwydnwch fynd â chi’n bellach nag yr ydych chi’n meddwl. Rwyf yn wir yn edrych ymlaen at ddechrau’r cyfnod nesaf yn fy addysg ym mis Medi."
Yn ogystal â llwyddiant yr arholiadau Safon Uwch sy’n cael ei ddathlu yn Coleg Gwent, mae Sophie Drew, myfyriwr hŷn, wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau yn ei chwrs Lefel 3 Mynediad i Addysg Uwch yn y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae Sophie, sy’n gweithio’n rhan-amser wedi goresgyn ei diffyg hyder hiroes o ran rhifedd. Mynediad i Addysg Uwch in Humanities and Social Sciences. Sophie, who works part time alongside her studies, has overcome her longstanding lack of confidence in numeracy.
Yn y cyfamser, mae Amelia Stubbs, darpar nyrs i oedolion, wedi ennill A*A*A* yn ei Diploma Uwch Lefel 3 mewn Egwyddorion a Chyd-destunau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Dywedodd: “Rwyf mor gyffrous fy mod yn dilyn yn olion traed fy mam a’m mam-gu trwy ddod yn nyrs ryw ddydd. Mae’n rhywbeth fy mod bob amser wedi eisiau ei wneud felly mae ennill y canlyniadau hyn yn golygu popeth i mi.
Parhaodd: “Mae wedi bod yn ddwy flynedd o waith caled ac rwyf mor falch fy mod wedi cyrraedd y pwynt hwn. Ni allaf aros i gymryd y cam nesaf tuag at fy ngyrfa a dechrau gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl.”
Dywedodd Nicola Gamlin, Pennaeth Coleg Gwent:
"Mae Diwrnod y Canlyniadau Lefel 3 bob amser yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn am ei fod yn gyfle i ddathlu cyflawniadau anhygoel ein holl ddysgwyr Lefel 3. Rydym wedi gweld eu lefelau hyder yn tyfu, darganfod eu cryfderau a chymryd camau pwysig tuag at ddyfodol cyffrous trwy gefnogaeth ac anogaeth ein haelodau staff ymroddedig.
“Ar ran pawb yn Coleg Gwent, hoffwn longyfarch pob un o’n dysgwr sy’n casglu eu canlyniadau Lefel 3 heddiw a dymuno pob lwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol."
Gallwch gofrestru ar gyfer rhywfaint o gyrsiau Coleg Gwent o hyd i ddechrau ym mis Medi. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.coleggwent.ac.uk/cy/not-too-late