Students taking a selfie at freshers event
Newyddion

Dyma ein Glasfyfyrwyr: Dechreuad Newydd ac Uchelgeisiau Mawr

Os ydych chi wedi gadael yr ysgol, yn dychwelyd i addysg, yn newid gyrfa, neu’n dilyn eich angerdd o’r diwedd, nid oes un llwybr yn unig at lwyddiant ac nid oes dyddiad cau ar gyfer cyflawni eich nodau.

Dyma ein Glasfyfyrwyr: Dechreuad Newydd ac Uchelgeisiau Mawr Mae blwyddyn academaidd newydd yn adeg ar gyfer dechreuad newydd, cyfleoedd newydd, ac uchelgeisiau cyffrous. Ar draws Coleg Gwent, mae myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n dychwelyd yn ymgartrefu ym mywyd yn y coleg, yn magu hyder, yn creu cysylltiadau, ac yn cymryd camau pwysig tuag at eu dyfodol. 

Mae gan bob myfyriwr ei stori ei hun. Mae rhai yn dechrau yn y coleg am y tro cyntaf, wrth i eraill ddychwelyd i addysg yn hwyrach yn eu bywydau i ddilyn uchelgais hiroes. Beth bynnag eu cefndir neu eu man cychwyn, mae ein myfyrwyr yn dangos nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, i dyfu, ac i ddilyn eich breuddwydion.

I Zara Ruiz, sy’n astudio ar gwrs Trin Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol, mae’n gyfle i droi angerdd am golur yn yrfa yn y dyfodol. Gan ddychwelyd i addysg fel dysgwr hŷn, mae Zara, wedi cael y profiad yn llawer mwy croesawgar nag yr oedd wedi’i ddisgwyl ar y dechrau.

“Dechreuais brynu fy ngholur fy hun pan oeddwn i’n 13 oed ac roeddwn i’n ymarfer ar fy hun ac ar aelodau o’m teulu. Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i mi ddatblygu fy sgiliau a, gobeithio, droi fy angerdd yn yrfa. Gall dychwelyd i addysg deimlo’n frawychus ond rwyf wedi teimlo’n dawel iawn fy meddwl a fy mod wedi cael fy nerbyn a byddwn yn annog oedolion eraill i roi cynnig arni.”

Students smiling at freshers event

I Caydan Gore, mae astudio ar gwrs Sgiliau Niferus yn gam cyntaf tuag at ddod yn blymiwr ac, yn y pendraw, redeg ei gwmni plymio ei hun. Er iddo fod yn nerfus cyn dechrau ar y cwrs, teimlodd Caydan ei fod wedi ymgartrefu’n gyflym.

“Roeddwn i’n nerfus oherwydd nad oeddwn i’n gwybod ble i fynd neu beth i’w ddisgwyl ond roedd y tiwtoriaid wedi gwneud popeth yn syml ac yn hawdd ei ddeall. Maen nhw’n agos-atoch sy’n gwneud i chi deimlo bod croeso i chi.”

Student Cayden outside campus

I Ashleigh Savill, mae dychwelyd i addysg yn ymwneud â rhoi hi a’i dyfodol yn gyntaf. Mae hi’n astudio ar gwrs Mynediad i Addysg Uwch mewn Gofal Iechyd ac mae’n bwriadu symud ymlaen i’r brifysgol i astudio ar gwrs Therapi Iaith a Lleferydd.

Ar ôl cael ei phlentyn yn 19 oed, mae Ashleigh yn teimlo mai nawr yw’r amser cywir i ddilyn yr yrfa y mae hi bob amser wedi eisiau ei chael. 

“Ches i ddim y cyfle i ddilyn llwybr gyrfa pan oeddwn i’n ifancach. Nawr bod fy mab yn oedolyn, mae’n teimlo fel yr amser cywir i roi blaenoriaeth i’m hun a chyrraedd fy mhotensial llawn. Nid yw hi byth yn rhy hwyr i ennill eich gradd a gwneud yr hyn rydych chi’n dymuno ei gwneud.”

Student Ashleigh outside campus

Mae Cymorth CG yn wasanaeth ymroddedig sydd wedi’i ddylunio i sicrhau fod gan fyfyrwyr fynediad at yr arweiniad a’r adnoddau cywir drwy gydol eu hamser yn Coleg Gwent, gan eu helpu i oresgyn heriau yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan iddi. 

Dywedodd Meri Thomas, Rheolwr Cynorthwyol, “Mae dechrau yn y coleg yn gyfnod cyffrous, ond mae'n hollol arferol cael cwestiynau neu bryderon ar hyd y ffordd. Mae ein Tîm Cymorth CG yma i helpu myfyrwyr newydd i setlo mewn a theimlo bod ganddynt gefnogaeth, gan gynnig cyngor ynghylch lles, cyllid, dysgu ac unrhyw heriau personol y gallent eu hwynebu. Rydym ni yma i sicrhau bod pob myfyriwr yn gwybod nad oes rhaid iddo lywio bywyd yn y coleg ar ben ei hun.”

Mae gennym hefyd ein tîm Uchelgeisiau CG, sy'n helpu myfyrwyr i ddarganfod eu potensial, gosod nodau ystyrlon a chymryd y camau nesaf tuag at ddyfodol llwyddiannus.

Dywedodd Abigail Collins, Rheolwr Ymgysylltu â Chyflogwyr a Dilyniant: "Beth bynnag sydd ar y gweill ar ôl Coleg Gwent, mae Uchelgeisiau CG yma i'ch helpu i archwilio eich opsiynau a dod o hyd i'r llwybr cywir i chi. P'un a yw'n ymwneud â'r brifysgol, prentisiaeth, y byd gwaith, cychwyn busnes, neu os nad chi’n yn siŵr beth sy'n dod nesaf, gallwn helpu chi i gynllunio, dod mewn cysylltiad â chyflogwyr, ennill profiad a datblygu'r sgiliau a'r hyder ar gyfer eich dyfodol.”

Os ydych chi wedi gadael yr ysgol, yn dychwelyd i addysg, yn newid gyrfa, neu’n dilyn eich angerdd o’r diwedd, nid oes un llwybr yn unig at lwyddiant ac nid oes dyddiad cau ar gyfer cyflawni eich nodau. 

Os ydych chi’n meddwl am astudio eleni o hyd, nid yw’n rhy hwyr i gyflwyno cais. Mae llawer o gyrsiau ar gael o hyd yn Coleg Gwent felly archwiliwch eich opsiynau a chymryd y cam nesaf tuag at eich dyfodol.

Beth bynnag yw’ch man cychwyn, gallai eich pennod nesaf ddechrau yn Coleg Gwent. Dewch o hyd i gyrsiau a chyflwyno cais yma.