Staff at Bannau Brycheiniog wearing orange Meningitis now t-shirts
Newyddion

Coleg Gwent yn mynd â neges frechu MenB i’r Bannau Brycheiniog 

Ymgymerodd tîm o bron 40 o gydweithwyr, aelodau teulu, a ffrindiau â her 10 milltir er cof am Megan Draper, 18 oed a fu farw ychydig o wythnosau ar ôl dechrau yn y brifysgol

Dros y penwythnos (5ed Medi), ymgymerodd tîm a arweiniwyd gan gydweithwyr Coleg Gwent â thaith 10 milltir y Bedol Bannau Brycheiniog a’r nod oedd annog myfyrwyr a rhieni i wirio a ydynt yn gymwys i gael brechlyn Llid yr Ymennydd B (MenB) cyn dechrau yn y brifysgol.

Daw’r alwad wrth i filoedd o bobl ifanc baratoi i adael eu cartrefi i fynd i’r brifysgol ym mis Medi – sef adeg pan fydd myfyrwyr yn cymysgu â phobl newydd ac yn byw yn agos at bobl eraill gan gynyddu’r risg o glefyd meningococol. 

Meg smiling

Cynhaliwyd yr her er cof am Megan Draper, merch boblogaidd yn ei harddegau a oedd yn mwynhau chwaraeon, a fu farw o MenB yn 2025 yn 18 oed yn unig. Roedd Meg wedi bod yn astudio ar gwrs Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Bournemouth ers ychydig o wythnosau yn unig ac roedd hi eisoes wedi ymuno â’u tîm pêl-rwyd a’u tîm nofio. 

Cymerodd mam Meg, Helen Draper, sy’n gweithio yn Coleg Gwent, ran yn yr her ochr yn ochr â’i gŵr, Lee, a bron i 40 o aelodau teulu, ffrindiau, a chydweithwyr.  

Gyda’i gilydd, maent yn gobeithio y bydd yr her yn helpu i ddiogelu’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr trwy godi dros £5,000 ar ran Meningitis Now – sef elusen sy’n ymgyrchu dros frechu MenB ehangach ymhlith pobl ifanc rhwng 15 a 24 oed ac sy’n cefnogi teuluoedd y mae llid yr ymennydd wedi effeithio arnynt. 

Cymerodd mam Meg, Helen Draper, sy’n gweithio yn Coleg Gwent:

Roedd yn arswydus pan glywsom fod brechlyn MenB ar wahân yn bodoli gan wybod bod Meg eisoes wedi cael brechiad yn erbyn llid yr ymennydd A, C, W ac Y. Pe bawn ni wedi gwybod, byddwn ni wedi talu am frechlyn preifat mewn chwinciad.

Parhaodd:

Mae’r daith gerdded hon mor bwysig i ni. Mae’n gyfle i gofio ein merch anhygoel ond hefyd i barhau i godi ymwybyddiaeth am MenB. Os yw rhannu stori Meg yn annog mwy o bobl ifanc a’u teuluoedd i ddeall y risgiau, i gydnabod pwysigrwydd brechu ac i fod yn ymwybodol o’r arwyddion, yna mae parhau i adrodd ei stori yn hynod o bwysig i ni.

Mae gan fyfyrwyr sy’n astudio yn eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol risg o gael clefyd meningococol sydd oddeutu saith gwaith yn uwch na phobl ifanc o’r un oedran nad ydynt yn mynychu’r brifysgol ac mae’r risg yn enwedig o uchel pan fydd pobl ifanc yn dechrau cymysgu a byw yn agos at ei gilydd. 

Mae’r ymgyrch codi ymwybyddiaeth yn dod wrth i raglen frechu MenB newydd, am adeg benodol, gael ei chyflwyno ar draws Cymru. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae dros 17,000 o bobl ifanc eisoes wedi cael eu brechiad cyntaf ac mae’r rhai sy’n gymwys yn awr yn cael eu hannog i ddychwelyd i gael yr ail ddos. 

Mae angen dau ddos, o leiaf pedair wythnos ar wahân, ar gyfer y lefel ddiogelwch orau. Gall pobl ifanc gymwys sy’n symud i ffwrdd cyn cael yr ail ddos gwblhau’r cwrs ar ôl symud i dref eu prifysgol.  

Mae’r brechlyn am ddim ar gael i’r rhai a anwyd rhwng 1af Medi 2007 a 31ain Awst 2008, yn ogystal â phobl ifanc dan 25 oed sy’n dechrau yn addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf yr hydref hwn. 

Ychwanegodd Katy Cook o Coleg Gwent:

Pan rannodd Helen a Lee eu cynlluniau ar gyfer yr her, roeddwn yn dymuno cymryd rhan ar unwaith – ac mae gweld y gefnogaeth honno yn tyfu i bron 40 o gydweithwyr, ffrindiau, ac aelodau teulu oll yn cymryd rhan er cof am Meg yn anhygoel. 

Mae’r amseru yn enwedig o bwysig i ni yn y Coleg wrth i lawer o ddysgwyr Coleg Gwent baratoi i ddechrau yn y brifysgol yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae stori Meg yn atgof aruthrol o’r rheswm pam bod angen i bobl ifanc a’u teuluoedd ddeall risgiau MenB ac rydyn ni’n dymuno rhannu’r neges honno â chynifer ohonynt â phosibl. 

Rydym yn annog pob myfyriwr sy’n dechrau yn y brifysgol yr hydref hwn i wirio a ydynt yn gymwys i gael brechlyn MenB ac, os ydynt yn gymwys, dylent drefnu ei gael cyn gadael i fynd i’r brifysgol. Mae’n gam syml a allai eu diogelu wrth iddynt ddechrau’r bennod nesaf hon.

I gefnogi her codi arian y tîm ar ran Meningitis Now, ewch i: https://www.justgiving.com/page/coleg-gwent  

I gael rhagor o wybodaeth am Lid yr Ymennydd B a gwaith Meningitis Now, ewch i: https://www.meningitisnow.org