Newyddion

O fwyngloddio i ddysgu cyfoes: Mae Coleg Gwent yn gwahodd cymuned i rannu ei stori

The redeveloped campus will provide a contemporary setting with cutting-edge facilities, equipping students with the skills and knowledge to achieve their full potential and succeed in future careers.

O hyb hyfforddiant ar gyfer glowyr yn ystod y 1960au i gyfleuster dysgu eco-gyfeillgar modern, mae campws Crosskeys wedi parhau i esblygu i fodloni anghenion y gymuned leol.

Nawr, wrth i’r campws gyrraedd cyfnod adeiladu cychwynnol cyn yr ailddatblygu, mae aelodau staff Coleg Gwent yn gwahodd cyn-fyfyrwyr, aelodau staff ac aelodau o’r gymuned leol i rannu eu hatgofion, eu straeon a’u lluniau fel rhan o brosiect treftadaeth arbennig i ddathlu hanes y safle.

Gallai cyfraniadau ffurfio rhan o gollage neu furlun coffa ar gyfer y coleg ar y campws a ailddatblygwyd gan helpu i gadw straeon a phrofiadau cenedlaethau o ddysgwyr yn bell i’r dyfodol.

“Wrth i ni ddechrau pennod newydd gyffrous ar gyfer y campws, rydym yn dymuno sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol ddathlu a chysylltu â’i hanes cyfoethog ac amrywiol”, meddai Ryan Chard, Pennaeth Gwasanaethau i Ddysgwyr ar gampws Crosskeys.

“Byddem wrth ein boddau’n clywed gan ddysgwyr ac aelodau staff o bob degawd – gan gynnwys y rhai o’r blynyddoedd mwyngloddio cynnar – i helpu i gipio’r daith liwgar o’r dechrau yn y 1960au hyd heddiw.”

Former students and staff can share their memories, stories and photographs via the college’s Facebook page, email to news@coleggwent.ac.uk or by post:

Coleg Gwent
Campws Crosskeys
Heol Risca
Crosskeys
Caerffili
NP11 7ZA

Myfyriodd cyn-fyfyriwr, Paul Edwards, a astudiodd ar gyrsiau Safon Uwch mewn Cemeg, Bioleg a Ffiseg yn ystod y 1980au ac sydd bellach yn llawfeddyg ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ei atgofion o’r coleg.

"Er i mi brofi trafferthion o ran fy lefelau hyder ar yr adeg honno, rhoddodd y tiwtoriaid yn Coleg Gwent y gefnogaeth a’r anogaeth yr oedd ei hangen arnaf i lwyddo."

“Heb y profiad hwnnw, nid wyf yn credu y byddwn wedi ennill y canlyniadau yr oedd eu hangen arnaf i fynd ymlaen i astudio biocemeg a ffarmacoleg. Mae bob amser wedi bod yn gyfleuster neilltuol i ddysgwyr ifanc ar draws de-ddwyrain Cymru a bydd yr ailddatblygiad yn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn parhau i elwa o’r un cyfleoedd a chefnogaeth o safon uchel.”  

Ers agor yn y 1960au, mae campws Crosskeys wedi esblygu o gampws mwyngloddio a champws technegol i hyb addysg bellach bywiog. Heddiw, mae’n cynnig ystod eang o gyrsiau gan gynnwys Safon Uwch, cymwysterau galwedigaethol a phrentisiaethau ar draws pynciau megis y celfyddydau perfformio, arlwyo, harddwch a gweithgynhyrchu.

Mae’r campws yn cael ailddatblygiad aml-gyfnod i greu amgylchedd dysgu modern, deinamig a chynaliadwy sydd wedi’i ddylunio i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol a pharhau i wasanaethu anghenion y gymuned leol. Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid a chefnogaeth gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Bydd y campws a ailddatblygwyd yn darparu lleoliad cyfoes a chyfleusterau o’r radd flaenaf gan roi’r sgiliau a’r wybodaeth i’r myfyrwyr gyflawni eu potensial llawn a llwyddo yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Yn ogystal â bod yn ynni effeithlon ac yn gynaliadwy, bydd yr ailddatblygiad hefyd yn cynnwys gweithdai peirianneg a cherbydau modur newydd a champfa hynod o fodern.