Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn ddilyniant delfrydol ar ôl cwblhau eich cymhwyster Cymdeithas Ceffylau Prydain Cyfnod 1. Byddwch chi’n astudio’r holl agweddau ymarferol a damcaniaethol sy’n angenrheidiol ar gyfer cymhwyster Cymdeithas Ceffylau Prydain Cyfnod 2.
... Y rhai sy’n dymuno symud trwy lwybrau Cymdeithas Ceffylau Prydain.
... Perchnogion ceffylau angerddol sy’n dymuno datblygu eu sgiliau.
... Unrhyw un sy’n dymuno hyfforddi ar gyfer arholiad Cymdeithas Ceffylau Prydain Cyfnod 2
... Y rhai sy’n ystyried neu sy’n dymuno dechrau gyrfa yn y diwydiant ceffylau.
Yn ystod y cwrs rhan-amser hwn, byddwch chi’n datblygu amrywiaeth o sgiliau ymarferol, gan gynnwys:
- Symudiadau ysgol farchogaeth sef cerdded, trotian a charlamu
- Marchogaeth heb wartholion
- Gweithio mewn sedd ysgafn
- Gwaith pol
- Marchogaeth dros gwrs sy’n cynnwys ffensys
Wrth i’r cwrs symud yn ei flaen, byddwch chi’n datblygu sgiliau pellach ar dir gwastad a thros ffensys
Byddwch chi hefyd yn datblygu gwybodaeth eang am ofalu am geffylau, gan gynnwys:
- Sgiliau trin
- Iechyd ceffylau
- Bwydo
- Rheolaeth stablau sylfaenol
- Cymorth cyntaf ar gyfer ceffylau
- Rhaglenni gwaith a ffitrwydd
- Cyflwyno ceffylau
- Gosod harneisiau
- Cludo ceffylau yn ddiogel
I ehangu eich gwybodaeth ymhellach, gallech symud ymlaen i gwrs hyfforddiant Cymdeithas Ceffylau Prydain Cyfnodau 3 a 4 (Gofal ac Arwain).
Er nad oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, dylech chi feddu ar sgiliau marchogaeth digonol, gan gynnwys gallu cerdded, trotion a charlamu yn annibynnol. Mae’n rhaid bod ymgeiswyr yn gallu marchogaeth yn yr awyr agored mewn ardal agored, neidio dros ffensys unigol a chwrs byr o 75cm.
Dylai dysgwyr fod o leiaf 19 oed a disgwylir iddynt fynd i asesiad marchogaeth cyn dechrau’r cwrs.
Sylwer – i sicrhau lles ein ceffylau, mae ein canolfan geffylau yn gweithredu uchafswm terfyn pwysau o 14 stôn. Gall pob ymgeisydd astudio ar opsiwn marchogaeth neu heb farchogaeth ar bob un o’n cyrsiau ceffylau felly ni fydd lle ar y cwrs yn cael ei wrthod.
Cyflwynir y cwrs hwn gan un o’n hyfforddwyr cymwysedig Cymdeithas Ceffylau Prydain a chaiff ei gynnal gyda’r hwyr.
Bydd angen het farchogaeth sy’n ffitio’n gywir ac amddiffynydd corff sy’n bodloni gofynion diogelwch presennol, esgidiau marchogaeth, jodhpurs, menig a chwip arnoch chi.
Sylwer bod y cwrs hwn wedi’i ddylunio i baratoi dysgwyr ar gyfer cymhwyster Cymdeithas Ceffylau Prydain Cyfnod 2, fodd bynnag, nid yw’r cwrs hwn yn cynnwys yr asesiad