Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r cyfle i chi ennill cymhwysedd ymarferol yn seiliedig ar wybodaeth greiddiol ymarfer nyrsio milfeddygol. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddarparu cymorth i filfeddygon a nyrsys milfeddygol yn ymarferol, gan eu helpu i ofalu am anifeiliaid sâl ac wedi'u hanafu.
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol os ydych eisoes mewn gwaith neu'n gwirfoddoli mewn practis milfeddygol anifeiliaid bychain ac yn barod i hyfforddi fel cynorthwyydd gofal milfeddygol neu derbynnydd milfeddygol.
Bydd arbenigwyr y maes gofal anifeiliaid a nyrsio milfeddygol yn cyflwyno darlithoedd, a byddwch yn cymryd rhan mewn fforymau trafod a gwaith grwp
Mae'r cymhwyster hwn yn ddelfrydol i ddysgwyr sydd eisiau dod yn nyrsys milfeddygol ond nad ydynt yn barod i ddechrau'r Diploma LANTRA Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol.
mae hon yn gyrsiau llawn amser am un flwyddyn am ddim
You will attend college for one day a week and work in a practice for a minimum of three days a week (or a minimum of 600 hours) for the duration of the course.
You will be assessed via:
- Veterinary care assistant progess log
- Prosiectau
- Cyflwyniadau
- Arholiadau ymarferol ac ysgrifenedig
Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol.
Bydd angen i chi allu arddangos gwybodaeth o pam eich bod eisiau gweithio gydag anifeiliaid mewn practis milfeddygol. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol yr ydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr.
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg NEU gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Bydd cyfweliad ffôn gydag Arweinydd y Cwrs yn cael ei gynnal fel rhan o’r broses ymgeisio, i sicrhau mai hwn yw’r cwrs iawn i chi.
Bydd angen i chi fod yn 16 oed neu'n hŷn
Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn cyflawni Diploma Lefel 2 LANTRA mewn Gofal Milfeddygol a Lles Anifeiliaid.
Bydd eich gwersi dros ddau ddiwrnod yr wythnos a byddwch yn ymgymryd â phrofiad gwaith trwy gydol y cwrs.
Cewch eich asesu drwy gofnod cynnydd, prosiectau, cyflwyniadau ac arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol.
Gallwch ddewis dilyn llwybr galwedigaethol Cynorthwyydd Gofal Milfeddygol neu Ddyletswyddau Gweithredol/Derbynfa ar gyfer rhywogaethau anifeiliaid bach: cathod, cŵn, cwningod.