• Rhan Amser

Hyfforddiant Cymdeithas Ceffylau Prydain Cam 3

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Gofal Anifeiliaid, Ceffylau ac Astudiaethau Tir
Dyddiad Cychwyn
31 Mawrth 2027
Hyd
2 days
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£140.00 Gall gostyngiadau fod ar gael
£140.00 Ffioedd Dysgu

Gostyngiad o 50% ar gael i ddysgwyr sy’n derbyn Budd-dal sy'n Seiliedig ar Brawf Modd.

Gostyngiad o 100% ar gael i unigolion dan 19, yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni ynglŷn â'n cynlluniau talu.
Sylwch, mae'r holl ffioedd a hysbysebir am flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod.

Yn gryno

Dyrchafwch eich sgiliau gyda'r cwrs hyfforddiant hwn a gynlluniwyd ar gyfer marchogwyr sy'n gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas Ceffylau Prydain Cam 3. Gan ganolbwyntio ar ofal ceffylau, ymarfer ffrwyn hir (lunging) a marchogaeth gwastad (flat riding), mae'r cwrs yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sy'n ddisgwyliedig gennych ar Gam 3, gan eich helpu chi i fireinio eich techneg a pharatoi ar gyfer asesiadau.

Ydych chi wedi ennill eich cymwysterau Cymdeithas Ceffylau Prydain Cam 2 a'ch bod chi'n barod i ddyrchafu eich sgiliau eto.

Ydych chi'n awyddus i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o ofal, hyfforddiant a pherfformiad ceffylau o fewn amgylchedd marchogaeth proffesiynol.

Hoffech chi ddatblygu eich sgiliau marchogaeth gwastad a'ch hyder wrth weithio'n annibynnol â cheffylau.

Ydych chi am weithio o fewn y diwydiant ceffylau neu symud ymlaen ymhellach ar hyd llwybr cymhwyster proffesiynol Cymdeithas Ceffylau Prydain.

Gan adeiladu ar sylfeini Cam 2, bydd y diwrnodau hyfforddi hyn yn eich helpu i fireinio'ch sgiliau gofal ceffylau, ffrwyn hir a marchogaeth wrth ddatblygu'r wybodaeth, yr hyder a'r annibyniaeth sydd eu hangen ar gyfer Cymdeithas Ceffylau Prydain Cam 3. Byddwch yn gweithio tuag at safon uwch o ran gofal ceffylau, ymarfer ffrwyn hir a marchogaeth gwastad, gyda phwyslais cryf ar lesiant ceffylau, effeithiolrwydd ac arfer proffesiynol.

 

Drwy gydol y cwrs, byddwch chi’n:

  • Datblygu gwell ddealltwriaeth o ofal ceffylau uwch a rheoli stablau, gan gynnwys iechyd, ffitrwydd, maeth, cyflyru ac adnabod ffactorau sy'n effeithio ar berfformiad a llesiant.
  • Gwella eich sgiliau rheoli ceffylau ymarferol drwy ddysgu sut i wneud penderfyniadau gwybodus wrth ofalu am geffylau a'u rheoli mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.
  • Archwilio sut mae ymarfer ffrwyn hir yn cyfrannu at addysg a hyfforddiant ceffylau, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau i wella ffordd o fynd (way of going), ymatebolrwydd a pherfformiad cyffredinol.
  • Ymarfer ffrwyn hir â cheffylau yn ddiogel ac yn effeithiol, gan gynnwys asesu symudiadau, defnyddio awenau ochr yn briodol, gwella trosiadau ac addasu sesiynau i ddiwallu anghenion hyfforddi unigol.
  • Datblygu eich marchogaeth gwastad ymhellach, gan ganolbwyntio ar ddatblygu ystum cytbwys ac effeithiol a marchogaeth gyda gwell gywirdeb, teimlad a dylanwad.
  • Dysgu sut i hyfforddi ceffylau yn fwy annibynnol, gan wella rhythm, cydbwysedd, hyblygrwydd ac ymatebolrwydd trwy ymarferion strwythuredig.
  • Meithrin hyder wrth werthuso perfformiad ceffylau a gwneud addasiadau priodol i wella canlyniadau hyfforddi.
  • Meithrin y sgiliau ymarferol a'r wybodaeth broffesiynol sy'n ddisgwyliedig gan y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant ceffylau neu symud ymlaen i gymwysterau BHS uwch.

Dylai dysgwyr fod wedi cyflawni cymwysterau Cymdeithas Ceffylau Prydain Cam 2 perthnasol mewn Gofal, Ffrwyn Hir a Marchogaeth (neu feddu ar brofiad cyfatebol) a bod ag ymrwymiad i ddatblygu eu gwybodaeth a sgiliau ceffylau ymarferol.

Dylai dysgwyr fod o leiaf 19 oed a disgwylir iddynt fynd i asesiad marchogaeth cyn dechrau’r cwrs.

DS – Er mwyn sicrhau llesiant ein ceffylau, mae gan ein canolfan farchogaeth derfyn pwysau marchogaeth o 14 stôn. Mae modd i bob ymgeisydd astudio opsiwn marchogaeth neu heb farchogaeth ar bob un o'n cyrsiau ceffylau ac felly ni fydd yn cael ei wrthod rhag dilyn y cwrs.

Caiff yr hyfforddiant ei arwain gan ein Hyfforddwr Cymdeithas Ceffylau Prydain Uwch, gan gynnig hyfforddiant proffesiynol ac arbenigedd yn y diwydiant mewn amgylchedd dysgu cefnogol.

Bydd angen i chi gael het farchogaeth sy’n ffitio’n gywir sy’n bodloni safonau diogelwch presennol.

Dylai dysgwyr wisgo dillad marchogaeth a stablau sy'n addas ar gyfer sesiynau ymarferol yn ogystal â sesiynau marchogaeth.

Noder bod y cwrs hwn wedi'i gynllunio i baratoi dysgwyr ar gyfer cymwysterau Cymdeithas Ceffylau Prydain Cam 3 mewn Gofal, Ffrwyn Hir a Marchogaeth Gwastad; fodd bynnag, nid yw'r cwrs hwn yn cynnwys yr asesiadau ffurfiol.

 

Campws Brynbuga

Côd y Cwrs
UCCE3857AA
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Hyd
2 days
Dyddiau
Wednesday and Thursday
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
16:00

Ffioedd: £140.00

£140.00 Ffioedd Dysgu

Gostyngiad o 50% ar gael i ddysgwyr sy’n derbyn Budd-dal sy'n Seiliedig ar Brawf Modd.

Gostyngiad o 100% ar gael i unigolion dan 19, yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni ynglŷn â'n cynlluniau talu.
Sylwch, mae'r holl ffioedd a hysbysebir am flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod.

Gall gostyngiadau fod ar gael

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Cyrsiau addysg uwch
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent - Glynebwy
Amser
2yp - 5yp
Ymgeisiwch nawr