Yn gryno
Diben y cymwysterau hyn yw datblygu’r sgiliau trosglwyddadwy, y rhinweddau a’r ymddygiadau angenrheidiol er mwyn i ddysgwyr symud ymlaen i astudio pellach ac, yn y pendraw, gyflogaeth.
Fel cymhwyster Lefel 1, mae’r safon basio yn gofyn i ddysgwyr gyflawni tasgau arferol, tasgau syml a thasgau dan gyfarwyddyd trwy gymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau. Disgwylir bod dysgwyr yn cwblhau tasgau yn llawn dan oruchwyliaeth, dan gyfarwyddyd neu dan arweiniad. Ar lefelau teilyngdod a rhagoriaeth, efallai y disgwylir i ddysgwyr gwblhau tasgau yn fanylach neu’n fwy hyderus neu’n fwy annibynnol.
Datblygu sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau ar gyfer y sector yw’r prif ffocws. Ein bwriad yw i bob dysgwr gael cyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol trwy unedau craidd ac unedau sector. Bydd hyn yn helpu dysgwyr i werthfawrogi sut y gall y sgiliau trosglwyddadwy y maent yn eu datblygu yn eu hunedau craidd gael eu rhoi mewn cyd-destun yn y sector y maent yn ei astudio. Ar gwblhau’r cwrs, bydd dysgwyr wedi datblygu set o sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau sector a fydd o fudd iddynt pa bynnag llwybr dilyniant y maent yn ei ddewis.
Mae’n rhaid i ddysgwyr gwblhau pob un o’r unedau Craidd:-
Uned A1: Bod yn Drefnus / Craid
Uned A2: Datblygu Cynllun Dilyniant Personol / Craidd
Uned A3: Gweithio gyda eraill / Craidd
Uned A4: Ymchwilio i Bwnc / Craidd
Caiff chwe uned eu dewis gan diwtoriaid oddi ar y rhestr isod:
Uned AD5: Creu Delwedd Celf
Uned AD6: Creu Gwrthrych Celf 3D
Uned AD7: Cyflwyno Delwedd gan ddefnyddio camera
Uned AD8: Dylunio Cynnyrc
Uned AD9: Cynllunio a Marchnata Arddangosf
Uned AD10: Creu Bwrdd Hwyliau
Uned AD11: Creu Arteffact gan ddefnyddio cla
Uned AD12: Creu Print
Byddwch chi’n cael eich asesu trwy aseiniadau, tasgau ac asesiadau ymarferol.
Hefyd, bydd gofyniad i chi astudio cymhwyster TGAU Mathemateg a Saesneg hyd at radd C (os nad ydych chi eisoes yn meddu arno)/Sgiliau Hanfodol Cymru hyd at lefel ofynnol.
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am y gwahanol feysydd galwedigaethol yn angenrheidiol.
Bydd angen i chi feddu ar gymhelliant, bod yn weithiwr caled ac yn barod i roi cynnig ar bethau newydd ym maes galwedigaethol celf a’r cyfryngau creadigol. Bydd disgwyliad i chi ymarfer sgiliau a thechnegau mewn amgylcheddau gwaith realistig yn y coleg, gan eich galluogi i adeiladu ar eich sgiliau cyflogadwyedd. Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn ofyniad gorfodol o’r cwrs hwn.
Gallai llwyddo i gwblhau’r cwrs hwn eich galluogi i barhau ar gwrs Lefel 2 mewn Celf a’r Cyfryngau neu mewn cyflogaeth yn y maes o’ch dewis.
Mae gofyniad i chi feddu ar 4 cymhwyster TGAU, gradd E neu is, a meddu ar ddiddordeb a galluedd yn y maes creadigol.
Disgwylir i chi brynu rhywfaint o ddeunyddiau er mwyn cefnogi eich dysgu, megis llyfr braslunio. Gallai fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.