• Llawn Amser

Gradd Sylfaen mewn Darlunio

llustration on Mac
Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth
Dyddiad Cychwyn
21 Medi 2026
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys

Yn gryno

Bydd y Radd Sylfaen mewn Darlunio yn eich addysgu sut i ddatblygu'n greadigol eich arddull eich hun, gan adlewyrchu'r ffordd ddyfeisgar yr ydych yn gweld y byd sy'n newid yn gyson, ac yn cyfathrebu ag ef.

... Oes gennych ddawn greadigol
... Oes gennych sgiliau a diddordeb mewn darlunio
... Ydych eisiau datblygu eich sgiliau i symud ymlaen i yrfa mewn darlunio

Byddwch yn archwilio cyd-destunau gwahanol o greu delweddau, o ddarlunio traddodiadol a defnydd masnachol hyd at lyfrau indie, graffeg gwybodaeth, cylchgronau, delweddau symudol, printiau argraffiad cyfyngedig, patrymau arwyneb a chynnyrch darluniadol.

Byddwch yn dysgu i weithio'n annibynnol, creadigol a beirniadol mewn amrywiaeth o gyd-destunau, wrth i ni gefnogi eich brwdfrydedd tuag at ddylunio, gweithgynhyrchu, marchnata a gwerthu eich gwaith eich hun.

Byddwn yn eich cefnogi wrth i chi ddatblygu eich sgiliau proffesiynol ym mhob aseiniad, gan gynnwys sgiliau datrys problem yn greadigol, rheoli prosiectau, a gweithio i friff a chwblhau gwaith i derfyn amser.

Drwy hunan-fyfyrio parhaus, byddwch yn datblygu ac yn adnabod cryfderau personol, gan eich helpu i gydnabod sgiliau trosglwyddadwy a sut y byddant yn ddefnyddiol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.

Ymhlith y modiwlau mae:

Blwyddyn 1

• Sgiliau gweledol creadigol

• Lliw a chyfathrebu ar gyfer darlunio

•Egwyddorion ac ymarferion darlunio

• Sgiliau astudio

• Prosiect ymarferol y diwydiannau creadigol

Blwyddyn 2

• Darlunio ar gyfer llenyddiaeth

• Darlunio ar gyfer patrymau arwyneb

• Profiad gwaith yn ymwneud â'r diwydiannau creadigol

• Datblygu gyrfa

• Astudiaethau cyfathrebu

Byddwch yn gweithio ar friffiau prosiectau go iawn ac yn elwa o ymweliadau gan ymarferwyr sy'n gweithio yn y diwydiant, a fydd yn darparu gweithdai, cynnig arweiniad gyda'r portffolio, a siarad am eu hymarfer eu hunain. Byddwn yn eich cyflwyno i archwilio ymarfer masnachol, yn eich annog i hyrwyddo eich hun yn broffesiynol ac archwilio hefyd eich syniadau eich hun drwy ddulliau hunan-gyfeiriedig a phroffesiynol, a fydd yn ehangu ffiniau eich iaith weledol. Wrth i chi ddatblygu eich diddordebau, gallwch ddewis addasu eich astudiaethau i astudio ystod o arbenigaethau creadigol, gan gynnwys darlunio golygyddol, llyfrau plant, cyhoeddi annibynnol, gwneud printiau, modelu, darlunio rhyngweithiol a phatrymau arwyneb.

Byddwch yn mwynhau rhaglen amrywiol o deithiau diwylliannol ac ysbrydoledig, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan roi i chi'r cyfle i ymweld ag orielau a lleoliadau perthnasol eraill a fydd yn llywio ac yn gwella eich gwaith.

Byddwch yn rhan o amgylchedd creadigol amrywiol sy'n rhoi mynediad i chi at bob math o gyfleusterau i safon y diwydiant, gan elwa o offer traddodiadol ac uwch dechnoleg. Yn ystod y ddwy flynedd bydd gennych eich man gweithio eich hun o fewn y stiwdio ddarlunio a'r cyfle i weithio ag ystod o weithdai a chyfleusterau arbenigol eraill yn y coleg.

Cewch eich asesu drwy waith cwrs a phortffolio. Wedi i chi gwblhau'r cymhwyster byddwch yn ennill Gradd Sylfaen mewn Darlunio fydd yn cael ei hachredu gan Brifysgol De Cymru.

Dylech allu rheoli eich amser eich hun, bod yn ymwybodol o'ch rhaglen astudio, mynychu ac ymgysylltu yn eich dosbarthiadau, bod â synnwyr o bwrpas bob amser a gofyn am gymorth pryd bynnag y byddwch ei angen.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi i chi'r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ar gyfer gyrfa mewn darlunio neu symud ymlaen i'r rhaglen BA (Anrh) Darlunio ym Mhrifysgol De Cymru.

Ystyrir pob cais ar sail unigol.

Yn gyffredinol, dylai ymgeiswyr 18-21 oed feddu ar o leiaf 3 TGAU (gradd C neu'n uwch) sy’n cynnwys naill ai Saesneg neu Gymraeg, a naill ai Mathemateg neu un o’r gwyddorau, yn ogystal â chymhwyster L3 (megis Diploma Cenedlaethol BTEC) sy'n gyfwerth neu'n uwch na 48 pwynt UCAS.

Cyfrifiannell tariffau UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator

Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr aeddfed (21+ oed), ac ystyrir ceisiadau ar sail unigol. Er nad yw cymwysterau ffurfiol yn ofynnol, mae diddordeb yn y pwnc, yn ogystal ag ymrwymiad ac awydd i ddysgu, yn hanfodol.

Masnachfreintir y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.

  • Y cod UCAS yw W224
  • Y cod sefydliad yw W01
  • Y cod campws yw G

Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r coleg neu drwy UCAS am y cwrs hwn.

Offer Deunyddiau Darlunio, £85, gorfodol, Y

Taith Llundain, £50, gorfodol,Y

Taith Ryngwladol, £400-£1,000, gorfodol, N

Costau Argraffu Arddangosiadau, £30-£50, gorfodol, Y

Costau Teithio, £100, gorfodol, Y

Art-and-Design

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFDG0061AA
Dull Astudio
Llawn Amser
Dyddiau
Dydd Llun a Dydd Mawrth

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy