Yn gryno
Os ydych chi’n frwdfrydig am gemau ac yn barod i ymuno â’r diwydiant, mae’r cwrs hwn wedi’i wneud ar eich cyfer chi. Sianelwch eich creadigrwydd a’ch ysgogiad entrepreneuraidd wrth fabwysiadu arferion proffesiynol yn eich agwedd a’ch prosiectau. Gadewch i’ch brwdfrydedd eich arwain wrth i chi drawsnewid eich gweledigaethau gemau yn realiti. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i feithrin y sgiliau technegol i ddod â’ch syniadau yn fyw a chreu celf gemau cyfrifiadurol a dyluniad gemau’r genhedlaeth nesaf.
... Ydych yn greadigol
... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn dylunio gemau
... Ydych yn gweithio'n galed ac yn frwdfrydig
Mae chwaraewyr gemau heddiw yn disgwyl datblygiadau gemau a chelf gemau realistig a llawn dychymyg 2D/3D. Byddwch yn edrych ar gefndir chwarae gemau ac yn astudio agweddau gwahanol sy'n effeithio ar chwarae gemau, gan gynnwys cysyniadau, dyluniad a defnydd. Yn ogystal â datblygu gwybodaeth dechnegol, byddwch yn cael eich annog i ddatblygu dawn greadigol a sgiliau proffesiynol i roi i chi'r cyfle gorau o lwyddo yn y farchnad gemau cyfrifiadur. Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddatblygu gydag arbenigwyr gemau cyfrifiadur i ddarparu hyfforddiant arbenigol ar gyfer y diwydiant.
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn astudio’r modiwlau canlynol:
Blwyddyn 1
- Mewnosod Arian i Ddechrau
- Cysyniadau a Dylunio
- Ymosodiad Celf
- Ymarfer Technegol
- Gadewch i Ni Wneud Gêm!
- Archwilio Gemau
Blwyddyn 2
- Pecyn Ehangu
- Further Exploration in Games
- Pwyswch Chwarae i Barhau
- Ymarfer Proffesiynol wrth Greu Gemau
Wedi i chi gwblhau'r radd sylfaen, bydd cyfle i chi fynd ymlaen i BA (Anrh) Celf Gemau, lle byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu eich sgiliau ymhellach mewn maes penodol.
Ystyrir pob cais ar sail unigol.
Yn gyffredinol, dylai ymgeiswyr 18-21 oed feddu ar o leiaf 3 TGAU (gradd C neu'n uwch) sy’n cynnwys naill ai Saesneg neu Gymraeg, a naill ai Mathemateg neu un o’r gwyddorau, yn ogystal â chymhwyster L3 (megis Diploma Cenedlaethol BTEC) sy'n gyfwerth neu'n uwch na 48 pwynt UCAS.
Cyfrifiannell tariffau UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator
Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr aeddfed (21+ oed), ac ystyrir ceisiadau ar sail unigol. Er nad yw cymwysterau ffurfiol yn ofynnol, mae diddordeb yn y pwnc, yn ogystal ag ymrwymiad ac awydd i ddysgu, yn hanfodol.
Gellir gofyn i ymgeiswyr fynychu cyfweliad, cymryd rhan mewn sesiwn gweithdy, neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o'r broses ddethol.
Masnachfreintir y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.
Y cod UCAS yw: 8C27