Yn gryno
Y cwrs lefel Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) hwn yw blwyddyn gyntaf rhaglen ddwy flynedd o hyd. Bydd yn datblygu eich creadigrwydd, eich arbenigedd technegol a'ch hyder proffesiynol wrth i chi baratoi at yrfa ym myd cyffrous celfyddyd colur. Mae'r rhaglen diwydiant-seiliedig hon yn cyfuno gweithdai ymarferol, prosiectau byw a chyfleoedd i ddatblygu eich portffolio proffesiynol i roi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ennill gyrfaoedd ym meysydd colur ffilm, teledu, theatr, ffasiwn, golygyddol ac effeithiau arbennig.
Byddwch yn archwilio arferion colur hanesyddol a chyfoes wrth fagu eich hunaniaeth greadigol eich hun trwy ymgymryd ag ystod o brosiectau ymarferol.
... Oes gennych chi ddiddordeb proffesiynol mewn colur theatr neu ffilm
... Ydych yn greadigol
... Ydych chi’n weithgar ac yn ymroddedig
Modiwl 1: Cysyniad a Datblygiad (85 Credyd)
Archwilio sylfeini creadigol a thechnegol celfyddyd colur proffesiynol trwy weithio ar gyfres o brosiectau ymarferol cyffrous. Byddwch yn datblygu sgiliau arbenigol ym meysydd colur ffasiwn a golygyddol, gwallt a wigiau hanesyddol, effeithiau arbennig, prostheteg a chelf corff wrth ymchwilio i artistiaid dylanwadol a thueddiadau'r diwydiant.
Trwy gydol y modiwl byddwch yn datblygu portffolio proffesiynol, yn arbrofi gyda thechnegau creadigol ac yn datblygu'r sgiliau ymarferol, technegol a phroffesiynol sy’n ddisgwyliedig yn y diwydiannau creadigol.
Byddwch yn archwilio:
- Gwallt a Cholur Ffasiwn a Golygyddol
- Colur Effeithiau Arbennig (SFX) a Phrostheteg
- Gwallt y Cyfnod, Steilio Wigiau a Postiche
- Technegau Paentio'r Corff
- Datblygu Cysyniadau Creadigol
- Sgiliau Diwydiant – Capiau Moel, Gorchuddion Tatŵ, SFX ‘o'r pecyn’
- Datblygu Portffolio Proffesiynol
- Brandio Personol a Chyflogadwyedd
Modiwl 2: Prosiect Creadigol (35 Credyd)
Gan weithio'n annibynnol ac ar y cyd, byddwch yn ymchwilio i, dylunio, datblygu a chynhyrchu cysyniad celf corff gwreiddiol cyn cyflwyno'ch gwaith yn yr Arddangosfa Greadigol ar ddiwedd y flwyddyn.
Mae'r modiwl hwn yn adlewyrchu arfer proffesiynol y diwydiant, gan ganiatáu ichi ddangos eich creadigrwydd, eich arbenigedd technegol a'ch sgiliau rheoli prosiectau wrth ddatblygu portffolio sy'n addas ar gyfer cyflogaeth neu astudiaeth bellach.
I ddechrau ar y cwrs, mae gofyn i chi gael 4 gradd TGAU A*- C sydd yn cynnwys Saesneg a Chelf, cymhwyster Lefel 3 mewn Colur Theatr a’r Cyfryngau (Proffil Teilyngdod Galwedigaethol Gofynnol) neu brofiad cyfwerth yn y diwydiant.
Bydd disgwyl i’r dysgwyr fod yn greadigol, ymroddgar ac yn ysbrydoledig
Cyfleoedd Gyrfa
Mae'r cymhwyster hwn yn paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth a dilyniant yn y diwydiannau creadigol sy'n cynnwys:
- Artist Colur Ffilm a Theledu
- Artist Colur Effeithiau Arbennig (SFX)
- Artist Colur Ffasiwn a Golygyddol
- Artist Colur a Gwallt Theatr
- Artist Colur Briodasol a Llawrydd
- Technegydd Wigiau a Postiche
- Crëwr Cynnwys Creadigol
- Symud ymlaen i Pearson BTEC Diploma Cenedlaethol Uwch Lefel 5
4 TGAU A*- C yn cynnwys Saesneg a Chelf, neu gymhwyster Lefel 3 mewn Colur Theatrig ac i'r Cyfryngau (o leiaf proffil Teilyngdod galwedigaethol) neu brofiad diwydiannol cyfwerth.
Bydd disgwyl i chi i brynu gwisg arbennig a phecyn wig a fydd yn costio tua £250
Efallai y bydd costau eraill sy'n gysylltiedig â theithio a llety ar gyfer hyfforddiant Meistr.
Cod gwisg:
- Gwisg arbennig
- Mae’n rhaid clymu’r gwallt yn daclus i ffwrdd o’r wyneb
