City & Guilds Dyfarniad mewn Asesu Cymhwysedd yn yr Amgylchedd Gwaith Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Lefel
3
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Hyfforddiant, Asesiad a Sicrhau Ansawdd
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Os oes gennych staff sy’n gorfod asesu cymhwysedd eu cydweithwyr yn y gwaith, ar gyfer cymhwyster neu at ryw ddiben arall, bydd y cwrs hwn yn helpu i wella’r modd y byddant yn defnyddio’r amryfal ddulliau, yn cynnwys arsylwi, archwilio cynhyrchion gwaith, holi a thrafod ar lafar, y defnydd a wneir o eraill (e.e. tystion), datganiadau dysgwyr a Chydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol. Mae’r cwrs yn cyd-fynd yn agos â’r hyn yr arferid ei alw’n Ddyfarniad D32/33 neu A1.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…pawb sy’n mynd ati i asesu ymgeiswyr sy’n dilyn NVQs
…y rhai y mae’n rhaid iddynt arsylwi ar gymhwysedd eu cydweithwyr, a’i gymeradwyo
Cynnwys y cwrs
Mae’r cwrs yn rhoi cyfle i’r dysgwyr feithrin a gwella’u sgiliau asesu tra byddant yn cyflawni cymhwyster proffesiynol. Mae wedi’i ddatblygu ar gyfer pawb sy’n gweithio mewn dysgu achrededig, dysgu heb ei achredu, y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol a’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau.
Bydd y dysgwyr yn mynd i’r afael ag un uned theori a fydd yn ystyried eu gwybodaeth am egwyddorion ac arferion asesu, yn ogystal ag un uned ymarferol a fydd yn ymdrin â pha mor dda y maent yn asesu cymhwysedd pobl eraill. Bydd y cymhwyster yn cael ei seilio’n rhannol ar asesiadau arsylwi lle bydd y rhai sy’n dilyn y cwrs yn arsylwi ar ddau ddysgwr go iawn ar ddau achlysur. Bydd hyn yn cael ei wneud mewn amgylchedd gwaith go iawn a bydd safonau/meini prawf cymeradwy yn cael eu defnyddio.
Ar gyfartaledd, mae angen 6 mis i gwblhau’r cymhwyster hwn, a chaiff ei asesu trwy ddefnyddio cyfuniad o bortffolio – bydd angen i’r dysgwyr gyflwyno tystiolaeth i brofi eu bod yn gymwys i gyrraedd safonau’r NVQ; ac arsylwi – bydd yr asesydd yn profi eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u perfformiad seiliedig ar waith i wneud yn siwr y gallant arddangos cymhwysedd yn y gweithle.
Gofynion Mynediad
Ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
BCEM0012AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.