Yn gryno
Mae'r cymwysterau hyn ar gyfer pobl sy'n gweithio, neu sydd eisiau gweithio yn y maes asesu a sicrhau ansawdd mewnol. Mae'r cymwysterau hyn yn agored i bobl sy'n cynnal asesiadau a sicrwydd ansawdd yn y rhan fwyaf o amgylcheddau dysgu, gan gynnwys AB, Addysg Barhaus i Oedolion, Cyflogwyr a'r Trydydd Sector.
Ar gyfer ymarferwyr sy'n cynnal sicrwydd ansawdd mewnol o'r broses asesu o fewn canolfan neu sefydliad, drwy gynllunio samplau, monitro a chynghori ar arfer aseswyr.
Gall dysgwyr ddisgwyl ymdrin ag ystod o ddamcaniaethau, polisïau a gweithdrefnau sydd wedi'u cynllunio i sicrhau sicrwydd ansawdd cadarn o asesu. Mae'r unedau'n cynnwys:
• Deall Egwyddorion ac Arferion Sicrhau Ansawdd Asesiad yn Fewnol
Sicrhau Ansawdd Ar asesiad yn Fewnol
Dylai fod gan ddysgwyr gymhwyster aseswr eisoes a bydd y cymhwyster yn cael ei farnu'n rhannol ar asesiadau a arsylwyd ar gyfer dau aseswr go iawn ar ddau achlysur mewn amgylchedd hyfforddi neu waith go iawn yn erbyn safonau/meini prawf cymeradwy felly mae'n rhaid i ddysgwyr weithio mewn amgylchedd/lleoliad lle mae hynny'n bosibl.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, bydd y cymhwyster yn cael ei farnu'n rhannol ar asesiadau a arsylwyd ar gyfer dau ddysgwr go iawn ar ddau achlysur mewn amgylchedd gwaith go iawn yn erbyn safonau/meini prawf cymeradwy felly mae'n rhaid i ddysgwyr weithio mewn amgylchedd/lleoliad lle mae hynny'n bosibl.
Bydd dysgwyr yn dilyn un uned theori sy’n rhoi ystyriaeth i egwyddorion ac ymarferion sicrhau ansawdd asesu yn fewnol ac un uned ymarferol sy’n cynnwys pa mor dda y maent yn sicrhau ansawdd asesu. Fel arfer, mae hyn yn gofyn am bedwar cyfarfod gyda’ch asesydd a gallai gymryd 3 i 6 mis i’w gwbllhau (ar eich cyflymder eich hun). Gellir rhoi dyfynbris ffurfiol ar ôl i ni ddeall eich anghenion hyfforddiant ond, fel canllaw, rydym yn codi £950 y person