Yn gryno
Gall anoddefiadau bwyd achosi problemau gwirioneddol i lawer o bobl o ran eu hiechyd. Felly mae'n briodol bod pawb sy’n trin bwyd yn ymwybodol o'r materion sy'n ymwneud ag alergeddau, anoddefiadau a'r ddeddfwriaeth a gynlluniwyd i ddiogelu'r cyhoedd.
Cefnogir y cymhwyster hwn gan Allergy UK, sy'n ei ystyried yn hyfforddiant addas i staff ar gyfer sefydliadau arlwyo sy'n dymuno gwneud cais am eu Cynllun Ymwybodol o Alergeddau.
Ar gyfer y rhai sy’n trin bwyd a staff eraill sy’n ymwneud â pharatoi bwyd yn y diwydiant arlwyo.
Mae'r pynciau ar y cymhwyster 4 awr hwn yn cwmpasu ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth:
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r bwydydd sbardun mwyaf cyffredin
- Nodweddion ac effeithiau anoddefiadau
- Pwysigrwydd cyfleu gwybodaeth am gynhwysion alergenaidd yn effeithiol i gwsmeriaid
Bydd dysgwyr yn cwblhau arholiad amlddewis.
Does dim gofynion ymlaen llaw ar gyfer y cymhwyster hwn, er mai'r argymhelliad yw bod dysgwyr eisoes yn dal Dyfarniad Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd neu gyfatebol.
Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddarparu ar safle cyflogwr ar gyfer grŵp o'u gweithwyr ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu’r cwrs ymlaen llaw gyda'r cyflogwr.
This is a four hour course. A formal quote can be issued once we understand your training need but as a guide, we charge £335 (includes all training, feedback and marking) plus additional awarding body fees (circa £11 per learner).