https://www.coleggwent.ac.uk/wp-content/uploads/2026/02/News-Takeoff-featured-masthead-desktop.jpg
Straeon o Lwyddiant

Dilyni'r llwybr hedfan

Dysgwr peirianneg Coleg Gwent ar ei ffordd i ddod yn un o beilotiaid benywaidd ieuengaf y DU

Mae dysgwr Coleg Gwent yn dangos sut mae addysg dechnegol yn gallu agor y drws i lwybrau gyrfa, uchelgeisiol a chyffrous wrth iddi weithio tuag at ddod yn un o beilotiaid benywaidd cyntaf y DU.

Mae Aimee Russell o Glynebwy yn ail flwyddyn y Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg Awyrofod yn y campws HiVE ar hyn o bryd.

Mae ei thaith yn tynnu sylw at yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael trwy lwybrau galwedigaethol, gan adlewyrchu neges allweddol Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (9–15 Chwefror).

Dechreuodd diddordeb Aimee mewn awyrennu yn ifanc ar ôl mynychu digwyddiad y Royal International Air Tattoo gyda'i thad, peiriannydd trydanol gyda brwdfrydedd dros awyrennu. Sbardunodd yr amlygiad cynnar hwn angerdd parhaol a ddatblygodd trwy sbotio awyrennau, dysgu am electroneg, ac yn y pen draw, cymryd ei gwers hedfan gyntaf yn 13 yn unig, sef moment a gadarnhaodd iddi hi ei huchelgais o ddod yn beilot.

Ar ôl gadael Ysgol Ebbw Fawr yn 2024 yn 16 oed, cofrestrodd Aimee yma i astudio Peirianneg Awyrofod. Ers dechrau ei chwrs, mae hi wedi dangos ymrwymiad eithriadol i'w hastudiaethau ac i ysbrydoli eraill. Mae hi'n llysgennad STEM brwdfrydig dros ein coleg, gan fynd ati'n weithredol i gefnogi gweithgareddau allgymorth, sy'n cynnwys ymweliadau ysgol a diwrnodau blasu er mwyn annog dysgwyr iau i ystyried gyrfaoedd ym maes STEM.

Aimee sat on an aeroplane wing

"Mae fy nhad wastad wedi f'annog i fynd ar ôl fy mreuddwydion. Mi wnaeth e fy nghefnogi drwy ariannu fy ngwersi hedfan a threulio amser yn fy helpu i ddeall cylchedau a llwybrau trydanol. Roedd hynny'n help enfawr yn ystod fy nghwrs, ac roedd modd i mi hyd yn oed drwsio cyfarpar electronig gartref. Rydw i hyd yn oed wedi helpu i ailweirio ein cegin yn ystod gwaith adnewyddu..”

Mae cyflawniadau Aimee hefyd yn mynd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Yn 2024, hi oedd un o ddim ond 12 myfyriwr yn y wlad a ddewiswyd gan British Airways i gymryd rhan yn ei rhaglen profiad gwaith gystadleuol ym Maes Awyr Caerdydd, gan sefyll allan o blith dros 1,000 o ymgeiswyr.

Dywedodd Alexis Dabee-Saltmarsh, Darlithydd mewn Peirianneg Chwaraeon Modur, Awyrofod a Chyfansawdd

"Mae Aimee yn fyfyriwr rhagorol. Er mai hi yw'r unig ddysgwr benywaidd ar ei chwrs, mae hi'n hyderus, yn llawn cymhelliant ac yn hynod alluog. Mae ei phrofiad wrth hedfan wedi caniatáu iddi feithrin sgiliau trosglwyddadwy a gwerthfawr i wella ei dysg yn fawr.”

“Mae'r campws HiVE yn darparu amgylchedd eithriadol ar gyfer meithrin sgiliau ymarferol sy’n berthnasol i’r diwydiant. Mae dealltwriaeth Aimee o beirianneg awyrofod eisoes yn drawiadol, ac rydym yn gyffrous i'w gweld yn parhau â'i thaith tuag at ddod yn beilot.

Bydd Aimee yn cwblhau ei Diploma Estynedig Lefel 3 haf eleni, ac yna mae'n bwriadu gwneud cais am raglen hyfforddi hedfan gyda chwmni hedfan mawr gyda'r nod o gymhwyso fel peilot masnachol o fewn y 18–24 mis nesaf.

Llongyfarchiadau Aimee. Rydym yn hynod falch o'ch cyflawniadau ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn ein hedfan ni i'n cyrchfannau gwyliau ddim yn rhy bell yn y dyfodol!

Wedi’ch ysbrydoli gan daith Aimee? Darganfyddwch sut gall prentisiaeth neu gwrs peirianneg yn Coleg Gwent lansio eich gyrfa!