• Llawn Amser
  • Lefel 3

BTEC Tystysgrif mewn Peirianneg Awyrofod Lefel 3

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
8 Medi 2026
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
3

Yn gryno

Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn datblygu’r wybodaeth sylfaenol a’r sgiliau penodol y mae eu hangen i fodloni gofynion diwydiannau peirianneg awyrenegol/mecanyddol modern.

... Ydych eisiau gyrfa mewn peirianneg awyrenegol
... Ydych yn weithgar
... Oes gennych ddiddordeb ysol mewn peirianneg

Pa un a ydych yn dymuno hebrwng cyfnod newydd i mewn o safbwynt awyrennau heb griw, datblygu awyrennau jet teithwyr mwyaf effeithlon y byd, neu droi teithiau i’r gofod yn realiti, mae’r dewisiadau gyrfa yn sector awyrofodol cyfnewidiol y DU yn ddigyffelyb.

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu ar y cyd â Phrifysgol De Cymru a byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai ymarferol yn y Ganolfan Awyrofodol yn Nhrefforest.

Yn ystod Blwyddyn 1, byddwch yn astudio:

Diploma Atodol mewn Peirianneg (60 credyd)

  • Iechyd a diogelwch yn y gweithle peirianneg (10 credyd)
  • Egwyddorion mecanyddol a’u defnydd (10 credyd)
  • Mathemateg ar gyfer technegwyr peirianneg (10 credyd)
  • Y defnydd o systemau mecanyddol mewn peirianneg (10 credyd)
  • Theori hedfan (10 credyd)
  • Arferion cynnal a chadw awyrennau (10 credyd)

Ynghyd â 30 credyd ychwanegol:

  • Deunyddiau a chaledwedd awyrennau (15 credyd)
  • Egwyddorion ac ymarfer gweithdai awyrennau (15 credyd)

Yn ystod Blwyddyn 2, byddwch yn astudio:

Diploma Estynedig mewn Peirianneg Awyrenegol (180 credyd)

  • Prosiect peirianneg (20 credyd)
  • Egwyddorion gwyddoniaeth fecanyddol awyrennau a’u defnydd (10 credyd)
  • Systemau trydanol awyrennau (10 credyd)
  • Systemau afionig (10 credyd)
  • Systemau gyrru awyrennau (10 credyd)
  • Cyfathrebu ar gyfer technegwyr peirianneg (10 credyd)
  • Egwyddorion gwyddoniaeth ffisegol awyrennau a’u defnydd (10 credyd)
  • Cyfrifiaduron a systemau electronig awyrennau (10 credyd)

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng arholiadau, gwaith cwrs, portffolio ac asesiad ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill:

  • Diploma Atodol Lefel 3 mewn Peirianneg (Blwyddyn 1)
  • Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg Awyrenegol (Blwyddyn 2)
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg (byddwch yn mynychu dosbarthiadau os na chawsoch Radd C neu uwch yn y pynciau hyn)
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen fan leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg Gradd B ac os oes modd Gwyddoniaeth Gradd B.

Bydd gennych ddiddordeb ysol mewn peirianneg, yn ogystal â brwdfrydedd a chymhelliant i ddatblygu eich sgiliau ymarferol a dadansoddol. Mae’n ofynnol ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs, ac mae parchu eraill, brwdfrydedd ynglyn â’r pwnc a hunangymhelliant hefyd yn ofynnol. Disgwylir ichi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

  • Astudio Cynnal a Chadw Awyrenegol neu Beirianneg yn y brifysgol
  • Prentisiaeth Uwch
  • Cyflogaeth

Beth am ddysgu mwy am yr hyn y gallwch ei wneud nesaf yn y maes peirianneg cyffrous hwn.

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys gradd B mewn Mathemateg ac, yn ddelfrydol, gradd B mewn Gwyddoniaeth.

Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol a fydd yn costio oddeutu £40.00.

O 2025, bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno yn ein canolfan HIVE newydd. Mae'r adeilad gwerth miliynau o bunnoedd wedi'i gynllunio i ddarparu ar gyfer darpar beirianwyr.

HiVE – Ebbw Vale

Côd y Cwrs
EFBE0031AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy