• Llawn Amser
  • Lefel 3

BTEC Tystysgrif mewn Peirianneg Chwaraeon Modur Lefel 3

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
7 Medi 2026
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
3

Yn gryno

Bwriad y cwrs hwn yw darparu’r wybodaeth sylfaenol a’r sgiliau penodol y mae eu hangen i fodloni gofynion diwydiannau peirianneg chwaraeon moduro/mecanyddol modern.

...Ydych eisiau gyrfa mewn peirianneg
...Ydych yn danbaid dros chwaraeon moduro
...Ydych yn weithgar ac yn dda am ddatrys problemau

Mae chwaraeon moduro yn un o’r diwydiannau mwyaf deinamig sy’n ehangu’n gyflym yn y DU gan feddu ar gysylltiadau sy’n tyfu’n barhaus â sectorau peirianneg perfformiad uchel eraill megis modurol, amddiffyn, morol, ac awyrofod. Mae hyn yn agor cyfleoedd eithriadol i unigolion sy’n dymuno meithrin gyrfa ym maes peirianneg chwaraeon moduro a meysydd cysylltiedig.

Drwy gydol y cwrs, yn ogystal ag ennill sylfaen ddamcaniaethol gryf, byddwch hefyd yn cael budd o brofiad ymarferol gyda cyfarpar o’r radd flaenaf.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch chi'n adeiladu ar eich gwybodaeth ddamcaniaethol trwy weithgareddau ymarferol a fydd yn dwysau eich egwyddorion peirianneg. Yn eich ail flwyddyn, byddwch chi'n cymryd rhan mewn prosiectau ymarferol, gan gynnwys cystadlu mewn rasys Greenpower ar draws y DU a chymryd rhan mewn digwyddiadau rasio ochr yn ochr ag aelodau staff. Mae'r profiadau hyn yn rhoi cyfle amhrisiadwy i chi ddefnyddio eich sgiliau mewn amgylcheddau chwaraeon moduro byd go iawn.

Ar ol cwblhau'r cwrs, cewch fynediad at ystod eang o lwybrau gyrfa. Gallwch barhau a'ch addysg drwy ein rhaglenni HNC a HND, dilyn addysg ar lefel y brifysgol, neu fynd i'r byd gwaith yn uniongyrchol trwy brentisiaethau neu gyflogaeth yn niwydiannau peirianneg chwaraeon moduro a pherianneg perfformiad uchel. Trwy'r cyfleoedd hyn a chefnogaeth canolfan ranbarthol arloesol sy'n ehangu, ni fu erioed adeg fwy cyffrous i ddechrau ar eich taith ym maes peirianneg chwaraeon moduro.

Blwyddyn 1

  • Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle Peirianneg
  • Cyfathrebu ar gyfer Technegwyr Peirianneg
  • Mathemateg ar gyfer Technegwyr Peirianneg
  • Egwyddorion Mecanyddol Systemau Peirianneg
  • Drafftio a Chymorth Cyfrifiadur mewn Peirianneg
  • Egwyddorion, Gweithrediad, Gwasanaethu a Thrwsio Injan Cerbyd
  • Diagnosio ac Atgyweirio Nam ar System Cerbyd
  • Egwyddorion Trydanol ac Electronig ar gyfer Technoleg Cerbydau
  • Gweithrediad Systemau Ffram Cerbydau

Blwyddyn 2

  • Prosiect Peirianneg
  • Mathemateg Peirianneg Bellach
  • Systemau crogiant, Llywio a Brecio Cerbydau Ysgafn
  • Cymwysiadau ar gyfer Gwyddor Gerbydau a Mathemateg
  • Ffrwythiant a Gweithrediad Systemau Chwistrellu Petrol Cerbydau
  • Egwyddorion Trydanol ac Electronig mewn Peirianneg
  • Ymarferion Gweithdy Chwaraeon Moduro
  • Paratoi ac Arolygu Cerbydau Chwaraeon Moduro

Er mwyn datblygu eich sgiliau ymarferol, cewch fynediad at weithdy o'r radd flaenaf a gallwch chi gymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau chwaraeon moduro ar draws y DU.

Os ydych yn astudio yn ein canolfan HiVE, fydd hefyd gen chi'r cyfle i ategu cymwysterau ychwanegol ym meysydd Peirianneg Gyfansawdd, niwmateg a Chynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur, gan ddefnyddio ein cyfleuster hyfforddiant sy’n arwain y sector.

Cewch eich asesu drwy waith cwrs, portffolio ac asesiad ymarferol. Ar gwblhau'r cwrs, byddwch chi'n ennill:

  • Tystysgrif Lefel 3 mewn Peirianneg Weithgynhyrchu Uwch (Chwaraeon Moduro)
  • Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg Weithgynhyrchu Uwch (Chwaraeon Moduro)
  • Bagloriaeth Cymru · Mathemateg a Saesneg (bydd gofyniad i chi fynychu dosbarthiadau os enilloch chi gradd sy'n is na gradd C yn y pynciau hyn ar gyfer eich arholiadau TGAU)
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

  • HNC mewn Peirianneg Weithgynhyrchu Uwch yng nghanolfan HiVE.
  • Cymhwyster ar lefel y brifysgol mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro neu bwnc arall sy’n gysylltiedig â pheirianneg
  • Prentisiaeth Uwch
  • Cyflogaeth

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys gradd B mewn Mathemateg ac, yn ddelfrydol, gradd B mewn Gwyddoniaeth.

Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol a fydd yn costio oddeutu £40.00.

Ynghyd â'n campws yn Casnewydd, byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddefnyddio ein cyfleuster newydd, arloesol yn Ebbw Fawr, a agor yn 2025. Mae buddsoddiadau diweddar yn Blaenau Gwent wedi trosi'r ardal yn ganolfan fywiog ar gyfer arloesedd a pheirianneg uwch. Mae'r datblygiadau cyffrous hyn yn creu cyfleoedd eithriadol i'r rhai sy'n dymuno adeiladu gyrfaoedd mewn peirianneg rasio a meysydd cysylltiedig. Trwy gydol y cwrs, byddwch yn cael sail ddamcaniaethol gref, ac yn elwa o brofiad ymarferol helaeth gyda'r offer mwyaf cyfoes yn HiVE.

Canolfan ATA

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
NFBE0032AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

HiVE – Glyn Ebwy

Côd y Cwrs
EFBE0032AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy
Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy