Newyddion

Buddsoddiad mawr yn nyfodol dysgu yn dechrau ar gampws Crosskeys

“Mae’r gwaith ailddatblygu hwn yn llawer mwy nag adeiladu yn unig – mae’n ymwneud â chreu cyfleoedd i ddysgwyr presennol a dysgwyr y dyfodol ar draws ein cymunedau."

Mae’r gwaith wedi dechrau’n swyddogol ar ailddatblygu campws Crosskeys, gan gofnodi dechrau pennod newydd gyffrous ar gyfer addysg a sgiliau yn y gymuned leol. Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid a chefnogaeth gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn cwblhau cyfnod cychwynnol y gwaith dymchwel, bydd y campws – a agorodd yn y 1960au fel hyb hyfforddiant ar gyfer y diwydiant glo – bellach yn cael ei drawsnewid yn amgylchedd dysgu cynaliadwy cyfoes sydd wedi’i ddylunio i gefnogi cenedlaethau’r dyfodol o ddysgwyr.

Caiff y gwaith ailddatblygu ei gyflwyno mewn sawl cyfnod. Bydd y cyfnod cyntaf yn cynnwys creu Canolfan Ynni newydd, ardaloedd dysgu ar gyfer busnes a TG ac ardaloedd penodedig ar gyfer arholiadau, astudio’n annibynnol a defnydd aelodau staff.

Dywedodd Nicola Gamlin, Pennaeth Coleg Gwent “Mae’r gwaith ailddatblygu hwn yn llawer mwy nag adeiladu yn unig – mae’n ymwneud â chreu cyfleoedd i ddysgwyr presennol a dysgwyr y dyfodol ar draws ein cymunedau.

“Rydym yn fach o’r rôl y mae campws Crosskeys wedi’i chwarae ar draws y cenedlaethau a bydd y cyfleusterau newydd hyn yn sicrhau ei fod yn parhau i ysbrydoli a chefnogi myfyrwyr am lawer o flynyddoedd i ddod.

“Trwy fuddsoddi mewn ardaloedd cyfoes, cynaliadwy, rydym yn helpu dysgwyr i ennill y sgiliau, yr hyder a’r profiadau y mae eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Mae’r ail gyfnod o waith wedi’i amserlennu i ddechrau yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf a fydd yn cyflwyno gweithdai peirianneg a cherbydau modur newydd ynghyd â champfa o’r radd flaenaf a chyfleusterau dysgu cynaliadwy ychwanegol. Disgwylir i’r gwaith ailddatblygu llawn gael ei gwblhau erbyn yr hydref 2027.

Ategodd Ian Jones, Cyfarwyddwr yn Willmott Dixon, “Rydym wrth ein boddau’n cofnodi’r garreg filltir bwysig hon ar gyfer Coleg Gwent a’r gymuned ehangach ar gampws Crosskeys. Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â mwy nag adeiladu – mae’n ymwneud â chreu cyfleoedd a dyfodol cynaliadwy. Gan weithio mewn partneriaeth agos â’r tîm yn Coleg Gwent, rydym yn falch o helpu i gyflwyno campws a fydd yn gwasanaethu dysgwyr heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.”

Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith buddsoddi ar gael yma.