Campws Crosskeys Datblygiadau Ystadau
Trawsnewid Campws Crosskeys
Byddwn ni’n dechrau ar y rhaglen fuddsoddiad fwyaf ers ei sefydliad yn y 1960au. Ein gweledigaeth yw campws Crosskeys sy’n fwy o faint, yn fwy mentrus ac yn well, ac sy’n diwallu anghenion cwricwlwm amrywiol. Mae’r isadeiledd presennol yn cyflwyno problemau sylweddol o ran cynnal a chadw ac mae angen buddsoddiad sylweddol ar rai adeiladau er mwyn moderneiddio’r adeiladau a bodloni ein targedau sero net.
Mae’r gwaith trawsnewid yn dechrau trwy adleoli’r brif dderbynfa i Floc X a fydd yn dechrau’r gwaith o baratoi ar gyfer datblygiad aml-gyfnod. Mae’r cyfnod cyntaf yn cynnwys adeiladu adeiladau newydd gyferbyn â Bloc X ac yna’n dymchwel Bloc B a Bloc F. Ar ôl hynny, bydd Bloc K a Bloc Z yn cael eu disodli a bydd cyfnodau’r dyfodol yn canolbwyntio ar adleoli’r gampfa, gweithdai peirianneg a gweithdai cerbydau modur i flaen y campws.
Mae ein gweledigaeth yn ymestyn y tu hwnt i adnewyddu isadeiledd er mwyn croesawu cynaliadwyedd. Bydd pob adeilad newydd a phob adeilad sydd wedi’i adnewyddu yn sicrhau lefelau uchel o ran effeithlonrwydd ynni neu garbon isel gan alinio â thargedau carbon sero net Llywodraeth Cymru.
Rydym yn gwerthfawrogi mewnbwn gan ein rhanddeiliaid ac rydym yn cynnal proses ymgynghori ag aelodau staff, preswylwyr a phartneriaid allweddol eraill.
Rydym yn cydweithio i greu campws sy’n fodern, yn gynaliadwy ac yn ddeinamig er mwyn i ni allu parhau i gynnig profiad gwych i fyfyrwyr ac aelodau staff am genedlaethau i ddod. Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd y campws yn lle ysbrydoledig a chyfoethog i ddysgu a gweithio; campws cynaliadwy sy’n parhau i ateb anghenion y gymuned, yn cryfhau cysylltiadau â’n hysgolion partner ac yn hyrwyddo partneriaethau â busnesau lleol.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â ni: crosskeys.development@coleggwent.ac.uk
Oriel
Diweddariadau
Diweddariadau
Cam 1: Gwaith dymchwel yn dechrau
Bydd y gwaith dymchwel yn dechrau ym mis Chwefror 2025 drwy dynnu tai dwbl sydd drws nesaf i Floc X ar hyd Ffordd Rhisga.
Derbynfa
Fe symudodd y brif dderbynfa i Floc X yn Haf 2024.
Y broses ymgynghori
Fe agorodd gyfres o ddigwyddiadau ymgynghori ym mis Mawrth 2024.