CG Uchelgeisiau

Gall ein tîm CG Uchelgeisiau gynnig arweiniad a chyngor ar gynllunio ar gyfer gyrfa, ysgrifennu CV a thechnegau cyfweld i wella eich cyflogadwyedd. Rydym hefyd yn cynnig cymorth ar greu a datblygu syniadau busnes newydd a chynnig cysylltiadau â sefydliadau allanol i’ch helpu chi wneud y mwyaf o’ch profiad yma yn y coleg – boed hynny’n atgyfeirio cyfleoedd ariannu, profiad gwaith, interniaethau neu sgyrsiau gyda’r diwydiant.

Gallwch drefnu apwyntiadau 1:1 am brofiad mwy personol, gofyn am sesiwn grŵp, neu gallwn gwrdd â chi mewn dosbarth (yn dibynnu ar amserlen).

Ydych chi’n gweld eich hun fel y Richard Branson neu’r Arglwydd Sugar nesaf?

Mae llwyddiant busnesau bach a sefydliadau mawr yn dibynnu ar feddyliau arloesol a meddylwyr sionc. Felly fel rhan o’ch cwrs llawn amser, byddwn yn ceisio rhoi’r sgiliau a’r meddwl a fydd yn eich helpu i fod yn entrepreneur gwych!

Bydd hyn yn cynnwys:

  • Dros 130 o arbenigwyr o’r diwydiant (siaradwyr gwadd) yn dod i sesiynau tiwtorial i godi ymwybyddiaeth ac ysbrydoli myfyrwyr i ddechrau eu busnes eu hunain
  • Cystadlaethau entrepreneuriaeth – gan gynnwys Her Syniadau Mawr Cymru, Her y Farchnad Stoc, y Rhaglen Tafflab (i dderbyn cyllid a mentora)
  • Yr Wythnos Fenter Fyd-eang yn arddangos y gorau mewn dosbarthiadau meistr menter ac entrepreneuriaeth
  • Bod yn rhan o’r Prosiect Arloesi’r Cymoedd a chyfle i weithio gyda briffiau go iawn gydag ystod o fusnesau a sefydliadau
  • Tair her gyfoethogi – Menter a Chyflogadwyedd, Cymuned a Dinasyddiaeth
  • Cyfoethogi personol trwy CG Extra

Nod Coleg Gwent yw ceisio:

  • Hwyluso uchelgais entrepreneuraidd a chefnogi busnesau myfyrwyr ar bob cam o daith eu busnes newydd
  • Annog cymuned y coleg i gynnig amgylchedd mentrus a chefnogol
  • Ysbrydoli myfyrwyr gyda chyfleoedd i gwrdd ag entrepreneuriaid lleol a chlywed eu hanesion
  • Datblygu a meithrin gallu dysgwyr, gan eu helpu i gydnabod a  manteisio ar eu nodweddion entrepreneuraidd nad ydynt efallai yn sylweddoli eu bod eisoes yn meddu arnynt
  • Ysgogi ein myfyrwyr i ddilyn eu nodau entrepreneuraidd eu hunain ac i ystyried hunangyflogaeth fel rhagolwg realistig.

Darganfyddwch fwy am ein heffaith yn ein Harolwg Effaith Blynyddol 2022.

Cyngor Gyrfaol

Ansicr ynglŷâ pha yrfa fyddai’n gweddu orau i chi? Neu’n cael trafferth gwybod pa gwrs i’w ddilyn i’ch helpu i gael swydd eich breuddwydion? Gall Coleg Gwent helpu!  

Gwnewch ein Cwis Buzz i sefydlu eich math o bersonoliaeth a chael argymhellion personol ar gyfer swyddi, pynciau i’w hastudio a hyd yn oed cynghorion i’ch helpu i weithio’n well. 

Neu edrychwch ar ein teclyn Llwybrau Gyrfa sy’n rhoi llawer o wybodaeth ar y gwahanol swyddi sydd ar gael i chi a gwybodaeth ynglŷâ’r pynciau gorau i’w dewis i’ch helpu i gyrraedd yno.