• Rhan Amser

CSSC Lean Six Sigma Gwregys Melyn

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Hyblyg

Yn gryno

Dechreuwch ar eich taith Lean Six Sigma gyda'r cwrs hwn sydd wedi'i ariannu'n llawn a'i achredu gan y Council for Six Sigma Certification (CSSC). Dysgwch egwyddorion craidd gwella prosesau, datrys problemau a lleihau gwastraff-sylfaen delfrydol i weithwyr proffesiynol sy'n awyddus i gael effaith ar eu gweithle.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

... unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru, sydd mewn cyflogaeth ac sy’n ennill yn llai na £34,303 y flwyddyn.

... oedolion cyflogedig yng Nghymru sydd am fagu eu hyder yn y maes gwella prosesau gan ddefnyddio Lean Six Sigma.

...gweithwyr proffesiynol ym mhob sector-gan gynnwys gofal iechyd, gweithgynhyrchu, gwasanaethau cyhoeddus, logisteg a manwerthu-sy'n newydd i Lean Six Sigma neu sydd am gyfrannu at brosiectau gwella fel rhan o dim ehangach.

Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 3 Diwrnod

Wedi'i ysbrydoli gan fethodolegau byd-eang mwyaf llwyddiannus y meysydd peirianneg brosesau a rheoli ansawdd, mae Cymhwyster Gwregys Melyn Lean Six Sigma yn rhoi cyflwyniad ymarferol i feddwl am Lean a thechnegau Six Sigma.

Byddwch yn archwilio egwyddorion Lean allweddol, gan gynnwys Gwelliant Parhaus, adnabod y 7 Ffordd o Wastraffu a methodolegau 5S. Byddwch wedyn yn symud ymlaen i'r offer a chysyniadau hanfodol a ddefnyddir ar bob cam o'r fframwaith DMAIC:

Diffinio eich problem

Deall Llais y Cwsmer

Cyfrifo Cost Ansawdd Wael

Cymhwyso'r Egwyddor Pareto

Cynnal dadansoddiad graffigol sylfaenol

Perfformio Dadansoddiad Achos Gwraidd

Gweithredu a chynnal gwelliannau i brosesau

Ar ol cwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn ennill Ardystiad Gwregys Melyn mewn Lean Six Sigma sydd wedi'i achredu gan y Council for Six Sigma Certification (CSSC) - cymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang sy'n brawf o'ch dealltwriaeth o fethodolegau Lean Six Sigma.

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, ond fe asesir ymrwymiad i gwblhau'r cwrs yn unol a dyheadau ar gyfer y dyfodol ar adeg ymgeisio.

Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.

Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.

Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • ymroddiad amser angenrheidiol

Hyblyg

Côd y Cwrs
MPLA0197AA
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir
Dyddiau
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy