Yn gryno
Ardystiad lefel-gyswllt yw hwn, sy'n dilysu eich gallu i dderbyn, trawsnewid, storio a gweithredu data gan ddefnyddio gwasanaethau dadansoddeg AWS.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.
... Peirianwyr data, penseiri data, peirianwyr cwmwl, datblygwyr, gweithwyr proffesiynol DevOps a pheirianwyr Deallusrwydd Busnes sy'n gweithio gydag offer data AWS.
Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Hyd y Cwrs: 3 Diwrnod
Mae pwyntiau dysgu allweddol y cwrs yn cynnwys:
- Ddylunio modelau data
- Adeiladu a chydlynu llifoedd data
- Derbyn a thrawsnewid data
- Sicrhau ansawdd data a rheoli cylch bywyd
- Optimeiddio perfformiad a chost
1–2 flynedd o brofiad ymarferol mewn gwasanaethau AWS NEU 2-3 blynedd o brofiad yn y meysydd peirianneg neu bensaernïaeth ddata.
Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.
Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.
Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
- profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
- dyheadau gyrfa
- ymroddiad amser angenrheidiol