• Rhan Amser

CSSC Lean Six Sigma Green Belt

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Hyblyg

Yn gryno

Symudwch eich sgiliau gwella prosesau yn eu blaen trwy’r cwrs Lean Six Sigma Haen Gwyrdd hwn a gydnabyddir gan ddiwydiant ac a ariennir yn llawn. Wedi’i achredu gan Council for Six Sigma Certification (CSSC), mae’r cwrs hwn yn eich paratoi i arwain prosiectau gwella a arweinir gan ddata sy’n cyflenwi canlyniadau mesuradwy a newid cynaliadwy.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

... unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru, sydd mewn cyflogaeth ac sy’n ennill yn llai na £34,303 y flwyddyn.

...oedolion mewn cyflogaeth yng Nghymru sy’n dymuno datblygu’r gallu i arwain neu gefnogi prosiectau gwella yn eu sefydliadau.

...ar gyfer gweithwyr proffesiynol ar draws sectorau megis gweithgynhyrchu, gofal iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, logisteg a manwerthu sy’n dymuno gwella prosesau, lleihau gwastraff a gwella perfformiad gan ddefnyddio methodolegau Lean Six Sigma strwythuredig.

Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 5 Diwrnod

Mae ein cwrs Lean Six Sigma Haen Gwyrdd wedi’i ddylunio i ddyfnhau eich deallwriaeth o wella prosesau trwy roi’r offer a’r technegau angenrheidiol i chi arwain prosiectau llwyddiannus gan ddefnyddio methodoleg DMAIC (Diffinio, Mesur, Dadansoddi, Gwella, Rheoleiddio).

Yn ystod y cyfnod Diffinio, byddwch chi’n dysgu sut i lefaru datganiad y brobelm yn glir, mapio prosesau gan ddefnyddio diagramau SIPOC a chasglu Llais y Cwsmer i sicrhau bod prosiectau’n alinio gydag anghenion busnes. Byddwch chi’n dewis prosiectau yn strategol, yn datblygu siarter y prosiect ac yn meistroli offer cynllunio a chyfathrebu hanfodol i ennyn diddordeb rhanddeiliaid yn effeithiol.

Yn ystod y cyfnod Mesur, mae’r ffocws yn symud i gasglu data. Byddwch chi’n deall pwysigrwydd data o safon, adnabod ffactorau ansawdd gritigol ac asesu cost ansawdd gwael. Byddwch chi’n defnyddio mapio prosesau, yn dylunio cynlluniau casglu data ac yn gwerthuso systemau mesur trwy astudiaethau Gauge R&R. Bydd offer ystadegol megis histogramau, siartiau rhedeg, siartiau rheoleiddio a phlotiau gwasgaru yn eich helpu chi i fesur perfformiad a galluedd prosesau.

Mae’r cyfnod Dadansoddi yn eich addysgu sut i ganfod achosion gwraidd problemau gan ddefnyddio technegau profedig megis diagramau Ishikawa a’r dadansoddiad 5 pam. Byddwch chi’n ennill sgiliau ym maes gwneud penderfyniadau consensus a dilysu achosion gwraidd trwy offer graffigol gan gynnwys plotiau blwch, cydberthyniad, atchweliad, a phrofi hypothesis i wneud penderfyniadau a arweinir gan ddata.

Yn y cyfnod Gwella, byddwch chi’n archwilio datblygu atebion trwy hel syniadau, defnyddio metreg gwneud penderfyniadau megis Dadansoddiad Pugh a Dadansoddiad Force Field a gwerthuso gwelliannau posibl gyda dadansoddiadau cost-buddion a Moddau Methiant a Dadansoddi Effeithiau (FMEA). Byddwch chi hefyd yn dysgu sut i beilota atebion i sicrhau eu bod yn cyflenwi canlyniadau dymunol.

Yn olaf, mae’r cyfnod Rheoleiddio yn canolbwyntio ar gynnal gwelliannau. Byddwch chi’n sefydlu gweithdrefnau gweithredu safonol, yn creu cynlluniau rheoleiddio ac yn defnyddio siartiau rheoleiddio i fonitro perfformiad parhaus. Bydd hyfforddiant ar gyfer dulliau newydd a chipio gwersi a ddysgwyd yn helpu i gynnal enillion a gyrru gwelliant parhaus.

Ar lwyddo i gwblhau’r cwrs, byddwch chi’n ennill Ardystiad Haen Gwyrdd Lean Six Sigma, a achredwyd gan Council for Six Sigma Certification (CSSC) — sef cymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang sy’n profi eich dealltwriaeth o fethodolegau Lean Six Sigma.

Yn ddelfrydol, bydd cyfranogwyr wedi cwblhau cwrs Haen Melyn Lean Six Sigma cyn cofrestru. Mae hyn yn sicrhau dealltwriaeth sylfaenol gadarn o gysyniadau Lean Six Sigma ac mae’n ein galluogi i drafod deunydd uwch yn ystod y rhaglen Haen Gwyrdd.

Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.

Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.

Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • ymroddiad amser angenrheidiol

Hyblyg

Côd y Cwrs
MPLA0196AA
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir
Dyddiau
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy