Yn gryno
Os ydych yn awyddus i weithio ar geir a cherbydau eraill, naill ai fel gweithgaredd hamdden neu fel gyrfa, y cwrs hwn yw’r cwrs cychwynnol i chi. Byddwch yn dysgu am egwyddorion sylfaenol cerbydau modur mewn awyrgylch gweithdy cyfeillgar braf, dros gyfnod o naw wythnos.
…rhywun sy’n awyddus i weithio ar geir a cherbydau eraill, naill ai fel gweithgaredd hamdden neu gychwyn gyrfa.
…rhai sydd eisiau datblygu sgiliau sylfaenol cerbydau modur.
Bydd angen unigolion awyddus, brwdfrydig sy’n dangos diddordeb mewn cerbydau modur, a bydd cyfle i chi ddysgu am yr holl systemau sy’n creu cerbydau modur clasurol a modern gan gynnwys:
Systemau brecio
Systemau crogiant
Systemau tanwydd
Teiars
Systemau trawsyriant
Systemau aerdymheru
Systemau trydanol gan gynnwys ABS a SRS
Gwasanaethu
Systemau taniad
Gofal cerbyd
Egsosts
Systemau rheolaeth injan
Addasiadau cerbyd
Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfres o asesiadau ymarferol a byddwch yn derbyn tystysgrif coleg ar ôl cwblhau. Nesaf, gallech symud ymlaen i gwrs llawn amser Lefel Mynediad neu Lefel 1.
Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfres o asesiadau ymarferol a byddwch yn derbyn tystysgrif coleg ar ôl cwblhau. Nesaf, gallech symud ymlaen i gwrs llawn amser Lefel Mynediad neu Lefel 1.
llawn amser Lefel Mynediad neu Lefel 1.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Yn ystod y cwrs, byddwch angen Offer Amddiffyn Personol addas.