Yn gryno
Os ydych chi’n awyddus i gynnal a chadw eich car eich hun neu gerbydau eraill, mae’r cwrs hwn yn fan cychwyn gwych. Byddwch chi’n dysgu’r egwyddorion sylfaenol am gerbydau modur mewn amgylchedd gweithdy hamddenol a chyfeillgar.
... unrhyw un sy’n awyddus i weithio ar geir a/neu gerbydau eraill.
... unrhyw un sy’n dymuno dysgu sut i gynnal a chadw ei gar ei hun.
... unrhyw un sy’n dymuno adnewyddu ceir fel hobi neu ddatblygu sgiliau ar gyfer gyrfa newydd.
Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig a meddu ar ddiddordeb mewn cerbydau modur. Cewch gyfle i ddysgu am yr holl systemau sy’n rhan o gerbydau modur clasurol a modern gan gynnwys:
Systemau brecio
Systemau crogiant
Systemau tanwydd
Teiars
Systemau trawsyriant
Systemau aerdymheru
Systemau trydanol gan gynnwys ABS a SRS
Gwasanaethu
Systemau taniad
Gofal cerbyd
Egsosts
Systemau rheolaeth injan
Addasiadau cerbyd
Cewch eich asesu trwy asesiadau ymarferol parhaus a chyflwynir tystysgrif coleg i chi ar gwblhau’r cwrs. Ar ôl hynny, gallwch chi symud i gwrs amser llawn neu gwrs rhan-amser ar Lefel Mynediad neu Lefel 1.
Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig a bod â diddordeb brwd mewn cerbydau modur.
You could move on to a full time or part-time course at Entry Level or Level 1
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Yn ystod y cwrs hwn, bydd angen Cyfarpar Diogelu Personol addas megis esgidiau a throswisg arnoch chi.