Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn gwella eich gwybodaeth dechnegol a’ch gwybodaeth theori yn y diwydiant ailorffen…
· Hoffech chi gael cyflwyniad ymarferol i atgyweirio cyrff cerbydau a thechnegau atgyweirio
· Mae gennych chi ddiddordeb mewn gweithio mewn siop trwsio cyrff cerbydau, canolfan atgyweirio neu symud ymlaen i brentisiaeth
· Rydych chi’n mwynhau gweithio gydag offer, cerbydau a phrosesau technegol
· Hoffech chi gael cymhwyster a gydnabyddir gan ddiwydiant sydd wedi’i alinio â safonau Sefydliad y Diwydiant Moduro (IMI)
· Rydych chi’n gadael yr ysgol neu’n dychwelyd i fyd addysg a hoffech chi gael llwybr clir i ddiwydiant atgyweirio modurol
Byddwch chi’n datblygu gwybodaeth graidd a sgiliau ymarferol sy’n cael eu defnyddio mewn siop trwsio cyrff cerbydau. Mae’r cwrs yn cyfuno gweithgareddau gweithdy â dysgu ac asesu yn yr ystafell ddosbarth
Fel arfer, mae unedau’n cynnwys:
· Iechyd, Diogelwch a chynnal a chadw da yn yr amgylchedd modurol
· Offer, cyfarpar a deunyddiau sy’n cael eu defnyddio ym maes trwsio cyrff cerbydau
· Lluniad a Systemau Corff Cerbydau
· Tynnu ac amnewid paneli a chydrannau cyrff cerbydau
· Technegau mân atgyweiriadau i baneli
· Diogelu ac Atal Rhydu
· Egwyddorion Mesur Cerbydau ac Ymwybyddiaeth Alinio
· Tynnu ac Ailosod Cydrannau Cerbydau
Dulliau asesu:
· Asesiadau gweithdy ymarferol
· Profion aml-ddewis ar-lein neu ar bapur
· Tasgau ysgrifenedig byr a chwestiynau yn seiliedig ar wybodaeth
· E-bortffolio o dystiolaeth a gasglwyd yn ystod gwaith ymarferol
Ar ôl cwblhau’r cwrs, gallech chi symud ymlaen i:
· IMI Lefel 3 Diploma mewn Atgyweirio Cerbydau (Llwybr Corff neu Baent)
· Prentisiaeth mewn Atgyweirio Cyrff Cerbydau Modur
· Cyflogaeth ar lefel mynediad fel cynorthwy-ydd siop trwsio cyrff cerbydau neu dechnegydd dan hyfforddiant
Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer gyrfaoedd hirdymor ym meysydd atgyweirio cyrff cerbydau, ailorffen, amcangyfrifo, neu oruchwyliaeth gweithdy
· Lefel 1 Diploma mewn Atgyweirio Cyrff Cerbydau ac Egwyddorion Paent neu gymhwyster Diploma Lefel 1 cyfatebol.
· 4 cymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg a Gwyddoniaeth (neu’r Gymraeg fel iaith gyntaf
· Diddordeb go iawn yn y diwydiant cerbydau modu
· Parodrwydd i weithio’n ddiogel mewn amgylchedd gweithdy
Efallai y caiff ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar gymwysterau ffurfiol eu hystyried o hyd yn dilyn cyfweliad ac asesiad cychwynnol.
· Bydd angen i chi wisgo dillad diogelwch ac esgidiau diogelwch yn y gweithdy
· Caiff y cwrs ei gyflwyno mewn gweithdai o safon diwydiant gan ddefnyddio cyfarpar proffesiynol
· Pwyslais cryf ar ymarferion gweithio’n ddiogel a sgiliau cyflogadwyedd
· Efallai y bydd gofyniad i chi gyflawni profiad gwaith fel rhan o’r rhaglen
· Mae dysgwyr llwyddiannus yn datblygu sgiliau ymarferol sydd wedi’u gwerthfawrogi gan gyflogwyr lleol a chyflogwyr cenedlaethol
Ar gyfer dysgwyr sy’n mwynhau gwaith ymarferol ac sy’n dymuno cael llwybr clir i’r diwydiant atgyweirio cerbydau modurol, mae’r cwrs hwn yn darparu man cychwyn ardderchog.