Yn gryno
Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi chi i ychwanegu technegau ychwanegol at y triniaethau yn eich repertoire presennol wrth ddatblygu ymhellach eich gwybodaeth am y damcaniaethau a'r arferion cymhwyso adweitheg ar lefel uwch.
Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i roi'r wybodaeth hanfodol i'ch cynorthwyo chi i ddarparu sgiliau therapiwtig uwch mewn lleoliad clinigol.
- y rheini sy'n therapyddion cyflenwol cymwys
- y rheini sydd yn meddu ar gymhwyster Lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn Adweitheg gan gynnwys Anatomeg a Ffisioleg
Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn astudio technegau adweitheg uwch gorfodol gan gynnwys llaw, clust, wyneb, adweitheg mamolaeth ar bob cam, ffrwythlondeb, y naw mis o feichiogiad a’r cyfnod ar ôl beichiogrwydd, gofal lliniarol a chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, rheoli poen, darllen traed a dehongliadau emosiynol a thechnegau arbenigol eraill. Byddwch chi’n astudio ystod o gymwysiadau megis adweitheg feridian, technegau therapi parthau i facsimeiddio dealltwriaeth a manwl gywirdeb mewn arferion gweithio
Mae'r unedau rydym yn mynd i'r afael â nhw yn cynnwys:
- Sgiliau rhyngbersonol
- Anatomeg a Ffisioleg Uwch
- Technegau Adweitheg Uwch
Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i arwain cyflogaeth mewnamrywiaeth o rolau, naill ai'n hunangyflogedig, mewn clinig therapi cyflenwol, cyfleusterau harddwch neu sba neu bractis preifat. Gall y cymhwyster hwn hefyd arwain at gyflogaeth mewn ysbyty, hosbis neu amgylcheddau gofal iechyd eraill.
Cynhelir asesiad trwy bortffolio o dystiolaeth, arsylwadau ymarferol ac astudiaethau achos (cofnod o 36 triniaeth).
Rhaid i chi fod yn therapydd cyflenwol cymwysedig ar Lefel 3.
Bydd gofyn i chi wisgo gwisg glinig ac esgidiau addas.
Mae cost y cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Mae ffioedd dysgu yn ddyledus ar adeg cofrestriad/ymrestriad. Os bydd angen, gellir gwneud hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros bum rhandaliad. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd cadarnhad o hyn yn ofynnol er mwyn i'r coleg allu trefnu i'w anfonebu.
Mae'n hanfodol eich bod yn gallu darparu cleientiaid addas fel astudiaethau achos ar gyfer eich asesiadau.
Manteision Masnachol a Busnes
Mae triniaeth adweitheg yn costio rhwng £50 a £75 yr awr a llai os ydych yn cynnig cwrs o driniaethau.