Yn gryno
Os ydych yn awyddus dilyn gyrfa yn y diwydiant harddwch, yna bydd y cwrs hwn yn eich addysgu chi sut i roi amrannau parhaol unigol, yn ogystal â rhoi gwybodaeth gadarn i chi o iechyd a diogelwch mewn amgylchedd salon a hyrwyddo gofal cleientiaid a chyfathrebu gyda chleientiaid
...unrhyw un sydd eisiau gwella eu sgiliau presennol a chynnig triniaethau diweddaraf y diwydiant.
...rheiny sydd eisiau dysgu proffesiwn newydd a gweithio yn y diwydiant harddwch.
Mae'r cwrs VTCT Dyfarniad Lefel 3 mewn Estyniadau Amrannau wedi'i ddylunio'n benodol i ddatblygu'ch sgiliau mewn therapi harddwch i lefel uwch, fel y gallwch gynnig eich gwasanaethau salon eich hun. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gymeradwyo a'i gefnogi gan Awdurdod y Diwydiant Trin Gwallt a Harddwch (HABIA), y corff gosod safonau ar gyfer cymwysterau trin gwallt, harddwch, ewinedd a sba.
Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol, gweithgar, cyfeillgar ac yn meddu ar lefel uchel o gyflwyniad personol, a bod yn ymroddedig i bresenoldeb llawn a phrydlondeb yn yr holl sesiynau. Bydd disgwyl i chi weithio ar gleientiaid go iawn mewn amgylchedd masnachol a bod yn gyfrifol am ddatblygu'ch 'sylfaen o gleientiaid' eich hun.
Cewch eich asesu gan gyfuniad o waith arsylwi, datganiadau tystion, cyfryngau clyweledol, cwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar, aseiniadau ac astudiaethau achos.
Ar ôl y cwrs hwn, gallech symud ymlaen i gymwysterau VTCT eraill, neu weithio yn y diwydiant yn gwneud triniaethau estyniad amrannau. Gallech gofrestru i wneud cyrsiau harddwch eraill neu gael gwaith fel technegydd amrannau.
• Observed work
• Witness statements
• Audio-visual media
• Written questions
• Oral questions
• Assignments
• Case studies
When you have successfully completed the qualification, you will may wish to progress to other VTCT qualifications such as Level 3 NVQ Diploma in Beauty Therapy/ Beauty Therapy Make-Up/ Beauty Therapy Massage
Alternatively, you may be interested in other qualifications at Level 2 such as Level 2 Award in the Art of Photographic Make-Up/ Award in Eyelash Perming.
This qualification may lead directly into employment in the beauty therapy industry as a junior beauty therapist in a salon or self-employment as a beauty therapist.
I gael lle ar y cwrs hwn, rhaid i chi fod yn 19 oed neu hyn, a gyda diddordeb yn y diwydiant harddwch neu'n gweithio ynddo’n barod.
Cod gwisg ein salon yw:
- Tiwnig gyda throwsus ac esgidiau duon
- Gwallt wedi'i glymu'n ôl yn daclus oddi wrth yr wyneb
- Ni ddylid gwisgo estyniadau gwallt a lliw ewinedd
- Dim tlysau - caniateir gwisgo modrwy briodas yn unig
Bydd disgwyl i chi wisgo gwisg y diwydiant harddwch neu ddillad addas a phrynu pecyn arlliwio fel amod o'ch lle ar y cwrs, sydd tua £80 i £100.