Yn gryno
Mae'r Dyfarniad VTCT (ITEC) Lefel 5 mewn Triniaethau Plicio Croen yn gymhwyster uwch a anelir at ymarferwyr cymwys ar lefel 4 sydd yn 18 oed neu'n hŷn gyda'r nod o ychwanegu'r therapi hwn at eu repertoire o driniaethau i'w cynnig. Prif bwrpas y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant esthetig uwch drwy gynnig technegau nodwyddo croen.
- y rheini sydd yn meddu ar gymhwyster Plicio Croen lefel 4
- y rheini sydd yn 18 mlwydd oed neu'n hŷn.
Mae plicio cemegol, neu blicio croen, yn harneisio pŵer asidau naturiol a chynhwysion gweithredol sydd wedi'u profi'n glinigol i ddiblisgo'r croen, annog cynhyrchu colagen a thyfiant/trosiad celloedd croen i gael croen mwy disglair sy'n ymddangos yn iau. Fel cymysgedd o asidau ac ensymau, mae plicio croen yn diblisgo eich croen ac yn cychwyn trosiad celloedd; mae hyn yn golygu tynnu celloedd croen marw oddi ar yr haen uchaf ac annog tyfiant celloedd, gan ddadlennu’r croen mwy newydd a llyfnach o dan. Mae plicio hefyd yn annog creu colagen ac elastin i helpu lleihau llinellau a chrychau mân.
Yn y cwrs uwch hwn byddwch chi yn dyfnhau eich dealltwriaeth o'r wahanol fathau o blicio croen a'u defnyddiau, ochr yn ochr â'r sgiliau i gario allan plicio arwynebol i'r epidermis canolig yn Fitzpatrick 1-6. Yn ychwanegol, byddwch chi'n datblygu'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i ddarparu cyngor ac ôl-ofal yn ogystal ag adnabod cymhlethdodau posib neu adweithiau croes, i sicrhau fod y cleient yn cael holl fuddion y driniaeth a chael y canlyniadau gorau posib.
Mae'r cwrs yn cynnwys:
- Ystyriaethau diogelwch
- Protocolau a chanllawiau
- Dadansoddi cynhyrchion
- Ymgynghoriad, cynllunio a pharatoi
- Cymhwyso triniaethau plicio croen arwynebol
Cynhelir asesiad drwy aseiniad, arholiad ymarferol a theori ac astudiaethau achos clinigol a byddwch yn ennill dyfarniad VTCT Lefel 5 mewn Plicio Croen.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn byddwch yn symud ymlaen i gyrsiau Lefel 4 a 5 eraill megis:
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Dermaplanio (Dermaplaning)
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Nodwyddo Croen
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Amledd Radio
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Micro-lafnu Aeliau
Bydd rhaid meddu ar Ddyfarniad Lefel 4 mewn Plicio Croen a bod yn 18 oed neu'n hŷn.
Bydd gofyn i chi wisgo gwisg glinig ac esgidiau addas.
Mae cost y cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Mae ffioedd dysgu yn ddyledus ar adeg cofrestriad/ymrestriad. Os bydd angen, gellir gwneud hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros bum rhandaliad. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd cadarnhad o hyn yn ofynnol er mwyn i'r coleg allu trefnu i'w anfonebu.
Mae'n hanfodol eich bod chi'n gallu darparu 4 - 6 cleient fel astudiaethau achos ar gyfer eich asesiadau.
Manteision Masnachol a Busnes
Gwerthir triniaethau plicio croen yn aml am £60-100 y driniaeth, fodd bynnag, mae hyn ar ddiwedd is yr ystod prisio; mae'r rhain yn gweithio'n dda fel pecyn mewn cyfuniad â thriniaethau eraill neu wedi'u gwerthu â chynhyrchion gofal yn y cartref i wneud yr elw mwyaf posib. Gall triniaethau yn y DU costau rhwng £250 - £500