• Rhan Amser
  • Lefel 3

Tystysgrif VTCT mewn Tylino Pen Indiaidd

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Maes Pwnc Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol
Dyddiad Cychwyn
14 Ebrill 2026
Hyd
6 wythnosau
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Lefel
3
Ffioedd
£254.00 Gall gostyngiadau fod ar gael
£175.00 Ffioedd Dysgu

Gostyngiad o 50% ar gael i ddysgwyr sy’n derbyn Budd-dal sy'n Seiliedig ar Brawf Modd.

Gostyngiad o 100% ar gael i unigolion dan 19, yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

£79.00 Ffioedd Eraill

Yn cynnwys cofrestriadau, ffioedd arholiadau ac unrhyw ddeunyddiau cwrs.

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni ynglŷn â'n cynlluniau talu.
Sylwch, mae'r holl ffioedd a hysbysebir am flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod.

Yn gryno

Mae'r Dystysgrif VTCT Lefel 3 mewn Tylino Pen Indiaidd yn gymhwyster cydnabyddedig yn genedlaethol a gynlluniwyd gyda’r nod o ddatblygu eich sgiliau ymarferol a gwybodaeth sylfaenol o'r therapi holistaidd poblogaidd hwn. Mae Tylino Pen Indiaidd, sy'n seiliedig ar egwyddorion Ayurvedaidd, yn canolbwyntio ar y pen, gwddf, ysgwyddau, wyneb, a breichiau uchaf er mwyn ennyn ymlaciad, lleddfu tensiwn, a gwella llesiant

Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi'r sgiliau proffesiynol, yr wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnoch i ddarparu triniaethau Tylino Pen Indiaidd yn ddiogel ac yn effeithiol mewn ystod o leoliadau megis salonau, sbaon a chlinigau therapi holistaidd, neu fel ymarferydd hunangyflogedig.

  • Oes diddordeb gennych mewn therapïau holistaidd a chyflenwol
  • Ydych chi eisoes yn gweithio, neu yr hoffech weithio, yn y diwydiannau harddwch, sba neu lesiant
  • Hoffech ychwanegu Tylino Pen Indiaidd at eich ystod bresennol o driniaethau
  • Ydych chi'n hoffi dysgu mewn modd ymarferol
  • Ydych chi'n chwilio am gymhwyster proffesiynol sy'n cefnogi cyflogaeth neu hunangyflogaeth

Byddwch yn cymryd rhan mewn cyfuniad o weithdai, arddangosiadau, sesiynau damcaniaethol ac astudiaeth annibynnol. Yn ystod y cwrs byddwch yn:

  • Dysgu tarddiad, egwyddorion a buddion Tylino Pen Indiaidd
  • Datblygu sgiliau ymgynghori, cyfathrebu a gofal cleientiaid
  • Astudio’r anatomeg a ffisioleg sy'n berthnasol i Dylino Pen Indiaidd
  • Dysgu sut i fynd ati’n broffesiynol wrth baratoi'r ardal gleientiaid, y gweithle, ac eich hun
  • Cymhwyso technegau Tylino Pen Indiaidd i’r pen, gwddf, ysgwyddau, wyneb a breichiau uchaf
  • Dysgu sut i addasu triniaethau er mwyn bodloni anghenion unigol cleientiaid
  • Dod i ddeall gofynion iechyd, diogelwch a glanweithdra mewn lleoliad proffesiynol

Cynhelir asesiadau ar ffurf:

  • Arsylwadau ymarferol
  • Aseiniadau ysgrifenedig neu gwestiynau i brofi eich gwybodaet
  • Astudiaethau achos a thystiolaeth o driniaeth
  • Adeiladu portffolio yn unol â gofynion VTCT

I gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus bydd gofyn i chi:

  • Fynychu sesiynau'n rheolaidd ac yn brydlo
  • Cyfranogi'n llawn i weithgareddau ymarferol a damcaniaethol
  • Ymarfer sgiliau er mwyn magu hyder a chymhwysedd
  • Cwblhau aseiniadau a gwaith portffolio erbyn dyddiadau cau cytunedig
  • Cadw'n unol â safonau iechyd, diogelwch a glanweithdra

Hefyd, bydd angen i chi feddu ar ddillad proffesiynol addas a bodloni'r safonau ymddangosiad sy'n addas i'r diwydiant.

Ar ôl cwblhau'r Dystysgrif VTCT Lefel 3 mewn Tylino Pen Indiaidd, gallech:

  • Gynnig triniaethau Tylino Pen Indiaidd mewn salonau, sbaon neu leoliadau therapi holistaidd
  • Gweithio fel therapydd teithiol hunangyflogedig neu lawrydd
  • Symud ymlaen i gymwysterau VTCT Lefel 3 mewn therapïau cyflenwol neu holistaidd
  • Cyfuno'r cymhwyster hwn gyda thriniaethau tylino neu lesiant er mwyn gwella cyflogadwyedd

Mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi twf gyrfaol o fewn y sector iechyd, harddwch a llesiant

  • Cymhwyster Lefel 3 mewn Anatomeg a Ffisioleg neu gymhwyster cydnabyddedig sy'n cynnwys hyn.
  • Fel arall, efallai y rhoddir ystyriaeth i brofiad yn y diwydiant
  • Awydd i weithio’n ymarferol ag eraill mewn modd proffesiynol a pharchus
Coleg Gwent counsellor talking

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CPCE0102AA
Amser Dechrau
09:15
Hyd
6 wythnosau
Amser Gorffen
17:00
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiau
Dydd Mawrth

Ffioedd: £254.00

£175.00 Ffioedd Dysgu

Gostyngiad o 50% ar gael i ddysgwyr sy’n derbyn Budd-dal sy'n Seiliedig ar Brawf Modd.

Gostyngiad o 100% ar gael i unigolion dan 19, yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

£79.00 Ffioedd Eraill

Yn cynnwys cofrestriadau, ffioedd arholiadau ac unrhyw ddeunyddiau cwrs.

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Gall gostyngiadau fod ar gael

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy
Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy