Yn gryno
Yn y cwrs Lefel 1 hwn, ceir dealltwriaeth sylfaenol o’r diwydiant modurol. Mae’n berffaith ar gyfer dysgwyr sydd eisiau gweithio ym maes gwasanaethu, atgyweirio a chynnal a chadw cerbydau a cherbydau ysgafn.
Os caiff ei gwblhau’n llwyddiannus, gall arwain at gwrs lefel 2 Diploma mewn Cerbyd Modur neu ddilyn prentisiaeth mewn diwydiant/trwsio a chynnal a chadw.
...Mae gennych ddiddordeb mawr mewn Peirianneg Fodurol
...Hoffech weithio yn y sector Cerbydau Modur
...Hoffech weithio mewn garej neu ddelwriaeth
…Hoffech chi gael profiad ymarferol mewn gweithdy cerbydau
Mae’r cwrs yn cynnwys cyfuniad o elfennau ymarferol a damcaniaethol.
Byddwch yn dysgu drwy gwblhau trwy gwblhau tasgau gweithdy a gweithgareddau dosbarth sy'n seiliedig ar sefyllfaoedd realistig yn y gweithle. Byddwch yn astudio unedau gan gynnwys:
Byddwch yn astudio unedau gan gynnwys;
- Systemau peiriant
 - Iro
 - Tanwydd
 - Ecsôsts
 - Brêcs
 - Llywio
 - Ataliad
 - Trosglwyddiad
 
Byddwch hefyd yn astudio;
- Iechyd a Diogelwch
 - Perthnasau Gwaith
 
Cewch eich asesu drwy:
- Arholiadau ar-lein
 - Gwaith cwrs
 - Asesiadau ymarferol
 
Wedi cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill:
- Diploma Cyntaf Lefel 1 mewn Peirianneg Cerbydau Modur
 - Paratoi ar gyfer Cyflogaeth (gweler gwefan Coleg Gwent am fanylion)
 - Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
 - Gweithgareddau Sgiliau
 - Mathemateg a Saesneg (Mae uwchraddio sgiliau Mathemateg a Saesneg i radd C neu uwch yn cael ei integreiddio i’r amserlen ddysgu)
 
Cwblhau cwrs Lefel Mynediad 3 yn llwyddiannus, neu ddyfarniad Lefel 1 drwy raglen Cerbydau Modur neu Beirianneg.
NEU
4 TGAU - 2 TGAU gradd D (Mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol) ac o leiaf 2 TGAU gradd D-G.
Bydd angen i chi fod yn:
- rhifog a chreadigol a gyda diddordeb amlwg mewn Peirianneg Fodurol
 
- gallu cymell eich hun, yn gweithio’n galed, yn brydlon ac ymroddedig
 
- Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg Cerbydau Modur
 - Diploma Lefel 2 mewn Gosod Cerbydau Cyflym
 - Symud ymlaen at brentisiaeth neu gyflogaeth addas
 
Cwblhau cwrs Lefel Mynediad 3 yn llwyddiannus, neu ddyfarniad Lefel 1 drwy raglen Cerbydau Modur neu Beirianneg.
4 TGAU - 2 TGAU gradd D (Mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol) ac o leiaf 2 TGAU gradd D-G.
Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol:
- hunanreolaeth, gweithio mewn tîm, ymwybyddiaeth busnes ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol ac agwedd gadarnhaol at waith
 
- Byddwch angen eich offer ysgrifennu eich hunan, h.y. ffolderi, cloriau i rannu pynciau, beiros, pensiliau, pren mesur a Chyfarpar Diogelu Personol (esgidiau trwm ac oferôls)